Ffordd dyrpeg

Oddi ar Wicipedia
Ffordd dyrpeg
Mathtaliad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tolldy ar hen ffordd dyrpeg yn Aberaeron

Ffordd dyrpeg (o'r Saesneg Turnpike) yw'r term am ffordd lle mae rhaid talu am fynd a cherbydau arni.

Adeiladwyd nifer fawr o'r rhain yng Nghymru yn ystod y 18g a dechrau'r 19g. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus yw Ffordd Caergybi (yn awr priffordd yr A5), a adeiladwyd gan Thomas Telford yn nechrau'r 19g. Gwrthryfel y werin yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y ffyrdd tyrpeg oedd Helyntion Beca, a barodd o 1839 hyd 1844.

Ychydig o esiamplau o'r math yma o ffordd a geir yng Nghymru bellach, ag eithio lle codir tâl am ddefnyddio pontydd, megis Pont Hafren. Codir tâl am ddefnyddio traffyrdd mewn nifer fawr o wledydd. Adeiledir rhai o'r rhain gan gwmnïau preifat, sy'n gobeithio gwneud elw o'r tollau; adeiledir eraill gan y llywodraeth.