Englynion Coffa Hedd Wyn

Oddi ar Wicipedia

Cyfres o wyth englyn gan R. Williams Parry (1884–1956) yw "Englynion Coffa Hedd Wyn" a gyfansoddwyd er cof am y bardd Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ellis Humphrey Evans ar fferm Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd ym 1887, a dechreuodd farddoni'n ifanc gan fabwysiadu'r enw barddol Hedd Wyn. Bu'n rhaid iddo adael ei waith ar y fferm ym 1917 i fynd i ryfel. Y flwyddyn honno cystadlodd ar awdl "Yr Arwr" yn Eisteddfod Penbedw gan yrru'r gwaith gorffenedig i'r gystadleuaeth o Ffrainc. Ef oedd yn fuddugol ond bu'n rhaid gorchuddio'r gadair â du oherwydd roedd y bardd yn y cyfamser wedi'i ladd ym Mrwydr Passchendaele.

Englynion coffa i'r bardd hwnnw yw'r gyfres enwog hon ac R. Williams Parry yn mynegi ei dristwch bod bywyd ifanc wedi'i golli a chorff y Cymro wedi'i gladdu mor bell o'r fro enedigol a garai gymaint. Yn ail hanner y gyfres ceir elfen o feirniadaeth bod person ifanc wedi gorfod gadael ei gynefin a'i lyfrau i fynd i ryfel a phwysleisir bod y tristwch yn fwy oherwydd iddo gael ei gladdu ymhell o'i gartref.[2]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Un peth mae R. Williams Parry yn ceisio'i bwysleisio yn ei englynion coffa i Hedd Wyn yw mai bardd ydoedd a dyma sut mae'r englyn cyntaf yn dechrau: "Y bardd trwm" Peth arall mae'n ei bwysleisio yw ei fod wedi marw ymhell o'i gartref annwyl ac mae e nawr "dan bridd tramor". Nid yw ei ddwylo'n gallu symud na'i lyfaid yn gallu agor, am ei fod yn farw. Roedd hyn yn beth ofnadwy i R.Williams Parry fod bardd oedd yn defnyddio'i synhwyrau gymaint bellach yn methu eu defnyddio o gwbl.[3]

Pwysleisir yn yr ail englyn eto fod Hedd Wyn wedi marw. Mae'r bardd yn ailddweud hyn yn y pedair llinell mewn ffyrdd gwahanol, ac fel petai'n siarad ag Hedd Wyn ("wedi ei fyw mae dy fywyd").

Yn y trydydd englyn mae'n sôn am y ffordd y mae'r lleuad yn dal i ddringo dros y mynydd yn Nhrawsfynydd ond nawr dydy Ellis ddim yno i'w weld, mae e wedi ei gladdu wrth ymyl y "ffos ddu" yn Ffrainc.

Yn y pedwerydd englyn mae R. Williams Parry yn cyfarch Trawsfynydd ac eto yn siarad yn uniongyrchol ag Hedd Wyn gan ddweud ei fod wedi troedio mynyddoedd yr ardal a'i fod yn adnabod y lle yn dda—dyma'i gartref. Yna yn y llinell olaf daw'r ergyd: "Hunaist ymhell ohoni." Eto pwysleisia'r bardd y drychineb fod Hedd Wyn wedi marw ymhell o'i gartref a'i gynefin.

Yn y pumed englyn try'r bardd i siarad gyda ni'r darllenwyr ac yn erfyn arnom i beidio ag anghofio Hedd Wyn. Pan fyddwn yn edrych ar y lleuad o hyn allan dylem gofio amdano gan ei fod yn beth mwy trist na thristwch ei fod e wedi cael ei ladd a'i gladdu, ei roi "i'r llwch".

Yn y chweched englyn ailadroddir y gair "garw" i bwysleisio pa mor annheg oedd anfon rhywun fel Hedd Wyn i ganol y brwydro. Roedd yn arw ei anfon o'i gartref, o "noddfa'i lyfrgell" gan mai "un addfwyn" ydoedd. Roedd yn arw ei ladd a'i gladdu ond y peth "mwyaf garw oedd marw ymhell".

Yn y seithfed englyn mae R. Williams Parry yn ailadrodd y gair "gadael" er mwyn pwysleisio'r holl bethau y bu'n rhaid i Hedd Wyn eu gadael ar ôl yn Nhrawsfynydd i fynd i'r rhyfel. Mae'r holl bethau yn ymwneud â byd natur ac yn bethau hyfryd. Gadawodd y rhain er mwyn mynd i ganol lle uffernol.

Yn yr wythfed englyn, cly'r bardd y gyfres drwy bersonoli'r gadair yma ac yn dweud ei bod hi'n "unig" gan nad oes neb yn eistedd ynddi. Mae'n creu darlun o'r gadair yn "estyn" ei breichiau allan yn ddistaw yn barod i gofleidio'r un sydd wedi ei hennill ond yn anffodus mae'n aros am "un ni ddaw". Mae'n chwarae ar y gair "hedd" hefyd gan y gall olygu tawelwch neu gall fod yn gyfeiriad at enw gwir berchennog y gadair sef "Hedd Wyn".

Arddull[golygu | golygu cod]

Yn yr englyn cyntaf, ceir gwrthgyferbyniad wrth sôn am synhwyrau Hedd Wyn, ei lygaid a'i ddwylo, sydd bellach yn methu symud a methu gweld. Ceir esiampl arall o wrthgyferbynnu yn y trydydd pennill, rhwng bro enedigol Hedd Wyn lle mae'r lleuad yn olau a thyner tra bod y bardd marw bellach "ger y ffos ddu'n gorffwyso" mewn lle tywyll, llawn casineb ac angau. Yn y seithfed englyn, ailadroddir y gair "gadael" seithgwaith er mwyn pwysleisio popeth y bu'n rhaid i Hedd Wyn ei adael ar ei ôl yn Nhrawsfynydd. Pethau hyfryd ydyn nhw sy'n gwrthgyferbynnu gyda'r pethau erchyll bu'n rhaid iddo'u gwynebu yn Ffrainc.

Mae cyfeiriadau R. William Parry at y lleuad yn y trydydd a'r pumed englyn yn enghraifft o gyfeiriadaeth lenyddol. Yma mae'n dwyn i'r cof un o benillion Hedd Wyn ei hunan, yn sôn am ei ardal enedigol:

"Dim ond y lleuad porffor
Ar fin y mynydd llwm
A sŵn hen afon Prysor
Yn canu yn y cwm."

Yn yr wythfed englyn caiff y gadair eisteddfodol enillodd Hedd Wyn ei phersonoli. Dywedir ei bod yn "unig", ei bod yn "estyn" ei "dwyfraich" a'i bod yn aros a gwrando am yr un a ddylai ddod i'w hawlio. Y tristwch ac eironi yw mai aros yn unig wnaiff hi gan ei bod yn disgwyl am "un ni ddaw". Dywedir fod y gadair yn aros mewn "hedd hir", chwarae ar eiriau sy'n cyfeirio at y tawelwch ond hefyd at enw gwir berchennog y gadair, Hedd Wyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "War and Memorial". Peoples Collection Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Hydref 2023.
  2. "Moving tribute to fallen poet Hedd Wyn". BBC Cymru Fyw. 2 Awst 2017. Cyrchwyd 19 Hydref 2023.
  3. The Cambridge History of Welsh Literature (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Caergrawnt. 2019. t. 370. ISBN 9781107106765.