Ehedydd y Coed
| Ehedydd y Coed | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Alaudidae |
| Genws: | Lullula |
| Rhywogaeth: | L. arborea |
| Enw deuenwol | |
| Lullula arborea (Linnaeus, 1758) |
|
Mae Ehedydd y Coed (Lullula arborea) yn aelod o deulu'r Alaudidae, yr ehedyddion, a'r unig aelod o'r genws Lullula. Mae'n nythu ar draws rhannau helaeth o Ewrop ac Asia a'r Dwyrain Canol yn ogystal a mynyddoedd Gogledd Affrica.
Nid yw Ehedydd y Coed yn aderyn mudol yn y gorllewin fel rheol, ond yn y dwyrain mae yn mudo ymhellach i'r de yn y gaeaf. Aderyn brown, tua 13.5 - 15 cm o hyd yw, yn bur debyg i'r Ehedydd o ran ei olwg. Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gân, ac yn aml mae'n codi yn uchel i'r awyr dan ganu, hyd at 100 medr. Nytha mewn coedwigoedd agored, neu rostir gyda choed gwasgaredig.
Ar un adeg roedd Ehedydd y Coed yn aderyn cyffredin trwy Gymru, ond bu gostyngiad mawr yn ei niferoedd yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, hyd nes iddo bron ddiflannu fel aderyn sy'n nythu. Yn y blynyddoedd diwethaf, ymddengys ei fod yn graddol ddychwelyd i rai ardaloedd.