Edeulys cyffredin

Oddi ar Wicipedia
Edeulys cyffredin
Cephaloziella divaricata

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Cephaloziellaceae
Genws: Cephaloziella
Rhywogaeth: C. divaricata
Enw deuenwol
Cephaloziella divaricata

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys cyffredin (enw gwyddonol: Cephaloziella divaricata; enw Saesneg: common threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Dyma'r edeulys mwyaf cyffredin yng ngwledydd Prydain; ac mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod drwy Gymru benbaladr.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'n ffurfio clytiau o goesynnau bychan, main (llai na 0.5 mm o led), ac mae'r brown neu wyrdd, gyda dail daulabed 0.1-0.2 mm o hyd, wedi'u gwasgu at ei gilydd.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Mae'r Edeulys cyffredin (C. divaricata) yn tyfu mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd asidig, gan gynnwys pridd, mawnog, tywodlyd a graean, creigiau asidig a mwyngloddiau. Mae rhostiroedd, clogwyni arfordirol a llethrau mynydd i gyd yn gynefinoedd nodweddiadol.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Edeulys cyffredin gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.