Eday

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Eday

Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Eday. Mae'r ynys tua 12 km o hyd a 4 km o led, ond yn culhau i ddim ond 100 medr yn y canol ger Loch of Doorny. Saif i'r gogledd o'r brif ynys, Mainland. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 120.

Ceir cysylltiad fferi ac awyren a Kirkwall ar ynys Mainland. Ymhlith hynafiaethau'r ynys mae'r maen hir Stone of Stetter a Carrick House, a adeiladwyd yn 1633, lle cymerwyd y morleidr John Gow yn garcharor.