Dydd San Ffolant

Oddi ar Wicipedia

Dethlir Dydd San Ffolant (Saesneg: Saint Valentine's Day) ar y 14eg o Chwefror, pan mae cariadon yn danfon cardiau neu anrhegion at ei gilydd. Yn aml, rhoddir blodau neu felysion i gariadon hefyd. Enwyd y diwrnod yn Saesneg a rhai ieithoedd Ewropeaidd eraill ar ôl dau o ferthyron y Cristnogion cynnar o'r enw Valentine. Mae gwreiddiau'r ŵyl yn hen ond efallai mai cariad corfforol a ddethlid yn yr hen ŵyl, sydd i'w chysylltu â'r Lupercalia Rhufeinig (15fed Chwefror). Daeth y diwrnod yn gysylltiedig â chariad rhamantaidd yng nghylchoedd Geoffrey Chaucer yn y Canol Oesoedd, pan ddatblygodd y traddodiad o serch llysaidd.

Ceir o leiaf tri sant cynnar o'r enw Valentin(e), ill tri yn ferthyron. Gosodwyd eu gwyliau i'w dathlu ar y 14eg o Chwefror gan y Pab Gelasius I, tua'r flwyddyn 498. Y tri sant yw:

  • Valentine (Ffolant) o Rufain, offeiriad a ferthyrwyd yn Rhufain yn ail hanner y 3g ac a gladdwyd yn y Via Flaminia.
  • Valentine (Ffolant) o Terni, esgob Interamma (Terni heddiw), a ferthyrwyd yn y 3g ac a gladdwyd fel y Valentine arall yn y Via Flaminia.
  • Merthyr o Ogledd Affrica; wyddom ni ddim llawer amdano.