Dydd Iau Cablyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Crist yn golchi traed y disgyblion; ysgythriad pren gan y Lutheriad Lucas Cranach yr Hynaf, o'r enw 'Cristws'.

Y dydd Iau cyn Dydd Gwener y Groglith yn ystod y Pasg yw Dydd Iau Cablyd (neu Difiau Cablyd) (Saesneg: Maundy Thursday neu Shear Thursday). O'r gair Hen Wyddeleg caplat, a hwnnw yn ei dro yn fenthyciad dysgedig cynnar o'r gair Lladin capillatio[1], y daw'r gair cablyd, a'i ystyr oedd "torri gwallt neu eillio pen" gan yr arferid eillio pennau'r myneich a golchi eu traed ar y dydd hwn, fel rheol fin nos. Arferid gwneud hyn i gofio am y Swper Olaf a'r weithred o olchi traed disgyblion Iesu o Nasareth.

Ymddangosodd y gair yn gyntaf mewn ysgrifen yn 1400.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol 1, tud. 373.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru, tud. 373.
Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.