Diwrnod Dathlu Deurywioldeb
Fe ddathlir Diwrnod Dathlu Deurywioldeb ar 23 Medi gan aelodau'r gymuned ddeurywiol a'u cynghreiriaid.[1][2][3]
Mae'r diwrnod yn galw ar ddeurywiolion a'u teuluoedd, cyfeillion, a chefnogwyr i gydnabod a dathlu deurywioldeb, hanes deurywiol, cymuned a diwylliant deurywiol, a'r bobl ddeurywiol yn eu bywydau.[4][5][6]
Cychwynnodd Ddiwrnod Dathlu Deurywioldeb yn 1999[7][8] gan dri gweithredwr hawliau deurywiol o'r Unol Daleithiau: Wendy Curry o Maine, Michael Page o Florida, a Gigi Raven Wilbur o Texas.[9] Dywedodd Wilbur:
| “ | Ers gwrthryfel Stonewall, bu'r gymuned hoyw a lesbiaidd yn cynyddu mewn nerth a gwelededd. Fe gynyddwyd y gymuned ddeurywiol mewn nerth hefyd ond mewn nifer o ffyrdd rydym dal yn anweladwy. Rydw i hefyd wedi fy nghyflyru gan gymdeithas i labeli'n awtomatig cwpl sy'n cerdded llaw yn llaw fel naill ai'n strêt neu'n hoyw, yn dibynnu ar rywedd canfyddadwy'r ddau berson. | ” |
Dechreuodd y dathliad o ddeurywioldeb yn unig, yn lle digwyddiadau LHDT cyffredinol, fel ymateb i'r rhagfarn ac ymyleiddiad o bobl ddeurywiol gan rai o fewn y cymunedau heterorywiol a LHDT.
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, cynhaliwyd yn sgîl y Gymdeithas Lesbiaidd a Hoyw Ryngwladol, yn ystod wythnos y 23ain. Pan ddechreuodd roedd yn boblogaidd dim ond mewn ardaloedd gyda phresenoldeb deurywiol cryf, ond erbyn hyn fe gynhalir trafodaethau, partïon cinio a dawnsfeydd yn Nhoronto a dawns fasgiau fawr yn Queensland. Ym Mhrifysgol A&M Texas, cynhaliwyd paneli trafod a sesiynau holi-ac-ateb yn ystod yr wythnos.[10] Dathlir y diwrnod yma gan Brifysgol Princeton pob blwyddyn trwy gael parti yng Nghanolfan LHDT y brifysgol. Fe'i ddathlir hefyd yn yr Almaen, Japan, Seland Newydd, Sweden, a'r Deyrnas Unedig.[11][12][13]
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Yes, 23 is everywhere. The Planet Star
- ↑ Weekend Festivities Celebrate Bisexuality
- ↑ Celebrate Bisexuality Day. University of Calgary Undergraduate Student Newsweekly.
- ↑ BiSexuality Day. Celebrate Bisexuality Day.
- ↑ "Celebrate Bisexuality Day" press release.
- ↑ Toronto Bisexual Network: Celebrate Bisexuality Day
- ↑ Day celebrates bisexuality, dispels myths. The Michigan Daily.
- ↑ Bi Community Celebrates. Bay Windows; 9/25/2003, Vol. 21 Issue 41, p3-3, 1/4p
- ↑ Scene Around Town. Bay Windows; 9/28/2000, pN.PAG, 00p
- ↑ Gender Issues Education Center Programs and Events. Texas A&M University
- ↑ Bisexuality Day
- ↑ Bikonferens - Bisexual Conference in Sweden during Celebrate Bisexuality Day!
- ↑ UK Events to mark International Celebrate Bisexuality Day
Cysylltiadau allanol [golygu]
- (Saesneg) Diwrnod Rhyngwladol Dathlu Deurywioldeb
- (Saesneg) Cyhoeddiad yn sgîl Diwrnod Dathlu Deurywioldeb
- (Saesneg) What's in a Name? gan Wendy Curry mewn Curried Spam, Medi 2007