Diana Karazon
| Diana Karazon | |
|---|---|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Enw genedigol | Diana Karazon |
| Ganwyd |
Mehefin 10, 1983 |
| Man geni | |
| Cerddoriaeth | pop, |
| Galwedigaeth(au) | Cantores |
| Offeryn(au) cerdd | Llais |
| Blynyddoedd | 2003–presennol |
| Gwefan | [1] |
Cantores Arabaidd boblogaidd o dras Palesteinaidd yw Diana Karazon (Arabeg: ديانا كرزون) (ganed 30 Hydref 1983 yn Kuwait). Daeth yn ewnog yn y byd Arabaidd ar ôl ennill y fersiwn Arabaidd o'r gyfres Idol, sef SuperStar, yn 2003.
Cynnwys |
Bywyd cynnar [golygu]
Cafodd Diana Karazon ei geni yn Kuwait a'i dwyn i fyny yn Amman, prifddinas Gwlad Iorddonen. Dechreuodd ar ei yrfa fel cantores yn blentyn gyda chefnogaeth ei thad, cerddor Palestinaidd yn Iorddonen. Canodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn eneth 6 mlwydd oed pan ganodd y gân wladgarol "Ya ayyuha al meleko" i'r brenin Hussein. Aeth ymlaen i ganu mewn sawl cystadleuaeth ar gyfer cantorion ifainc a'r canlyniad fu iddi gael ei dewis i ymddangos yn y gystadleuaeth deledu Superstar.
Gyrfa gerddorol [golygu]
Enillodd Karazon y gystadleuaeth honno ac aeth ymlaen i ryddhau CD o'r enw "Ensany Ma Binsak" (Diana, SuperStar yr Arabiaid). Roedd ei steil yn gyfyno cerddoriaeth Arabaidd draddodiadol a cherddoriaeth pop Arabaidd.
Yn nes ymlaen bu rhaid iddi, oherwydd ei chytundeb recordio, gynrychioli'r gwledydd (fel dewis "Pan-Arabia") yn y gystadleuaeth World Idol ryngwladol. Gwnaeth enw iddi ei hun yno drwy wrthod canu yn Saesneg fel y cystadleuwyr rhyngwladol eraill a dewid yn hytrach ganu yn ei mamiaith, yr Arabeg. Daeth yn 9fed yn y gystadleuaeth ond roedd ei safiad dros yr iaith yn boblogaidd a'r cyhoeddusrwydd yn hwb i'w phoblogrwydd yn y byd Arabaidd.
Yn 2005 cyhoeddodd ei ail albwm "El Omr mashy" ("Mae bywyd yn parhau").
Dywed Karazon fod y prif ddylanwadau cerddorol arni yn cynnwys caneuon Fairuz (y gantores enwog o'r Libanus) a Warda.
Discograffeg [golygu]
Performiadau (caneuon) [golygu]
55 uchaf: أكذب عليك (Akdib Aleyk) gan Warda
8 uchaf: آه يا ليل (Ah Ya Leel) gan Ragheb Alama
7 uchaf: إبعتلي جواب (Iba'atli Jawab) gan Nour Mehana
6 uchaf: ألف ليلة وليلة (Alf Leela W Leela) gan Umm Kulthum
5 uchaf: دنيا الوله (Dinya Min El Wala) gan Abdallah Al Rowaished
4 uchaf: أنا في انتظارك (Ana Fi Entazarak) gan Umm Kulthum
4 uchaf: مغرومة (Maghroume) gan Najwa Karam
3 uchaf: أكذب عليك (Akdib Aleyk) gan Warda
3 uchaf: البوسطه (El Posta) gan Fairuz
3 uchaf:
Grande Finale: لسا فاكر (Lissa Faker) gan Warda
Grande Finale:
Grande Finale: تعا ننسى (Ta'a Ninsa) gan Melhem Barakat