Hussein, brenin Iorddonen
Oddi ar Wicipedia
Brenin Gwlad Iorddonen o 1952 hyd ei farwolaeth oedd Hussein bin Talal (Arabeg: حسين بن طلال , Ḥusayn bin Ṭalāl; 14 Tachwedd 1935 – 7 Chwefror 1999). Daeth i'r orsedd yn sgil ymddiorseddiad ei dad Talal. Wedi marwolaeth Hussein, daeth ei fab Abdullah II yn frenin.