Dendera

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Dendera (Arabeg: دندرة) (hefyd Denderah/Dandarah), yn dref fechan yn Yr Aifft ar lan orllewinol Afon Nîl, tua 5 km i'r de o Qina, ar y lan gyferbyn, a thua 50 milltir i'r gogledd-orllewin o Thebes a Luxor.

Hanes[golygu]

Y fynedfa i Deml Dendera

Ar ymyl yr anialwch, tua 2.5 km i'r de-orllewin o'r dref, ceir adfeilion y Dendera hynafol (Iunet neu Tentyra yn yr Hen Eiffteg), lleoliad teml Groeg-Rufeinig a oedd yn ewnog iawn yn yr Henfyd ac sy'n atyniad twristaidd heddiw. Iunet or Tantere. Roedd yn brifddinas chweched Nome (talaith) yr Aifft Uchaf. Roedd Dendera yn gysegredig i'r dduwies Eifftaidd Hathor, a uniaethid ag Aphrodite'r Groegiaid.

Roedd y ddinas yn ganolfan eglwysig yn yr Eglwys Goptaidd, gan wasanaethu fel sedd esgobaeth i suffragan Ptolemais. Dim ond dau enw a gysylltir â'r cyfnod Cristnogol, sef Pachymius, cyfaill y sant Melece (dechrau'r 4edd ganrif) a Serapion neu Aprion, cyfoeswr a chyfaill y sant Pachomius, a gysylltir â mynachlog Tabennisi. Dan yr Arabiaid daeth yn dref Denderah; erbyn cyfnod yr Otomaniaid roedd tua 6000 o bobl yn byw yno.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]