Hathor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Hathor yn Amgueddfa Luxor

Un o dduwiesau mwyaf yr Hen Aifft oedd Hathor (neu Athyr), a gysylltid â'r Llwybr Llaethog. Roedd y Groegiaid yn ei huniaethu ag Aphrodite, duwies serch ym mytholeg Roeg. Yn wreiddiol, ystyrid Hathor yn ferch i Ra, brenin y duwiau, ac yn wraig i Horus, duw'r haul a brawd y dduwies Isis; mae modd dehongli ei henw fel "trigfa Horus" am ei bod, fel duwies yr Awyr, yn amgau Horus yn ei mynwes bob nos ac yn rhoi genedigaeth iddo eto yn y bore.

Cyfeirir ati hefyd fel y Fuwch fawr yn y nefoedd a greodd y byd, gan gynnwys Horus, ac a'i gynhaliai. Mewn canlyniad fe'i portreadir yn aml fel duwies gyda phen buwch neu gyda phen dynol corniog neu glustiau buwch. Roedd hi'n nerthu bodau dynol fel petasent ei phlant, gan roi iddyn nhw o'i llefrith i'w yfed; ceir lluniau ohoni yn bwydo brenhinoedd yr Aifft o'i bronnau. Roedd ei haddolwyr yn credu mai llaeth yn llifio o'i bronnau oedd y Llwybr Llaethog.

Cysylltir Hathor â ffetis neilltuol yn ogystal, sef y sistrum. Roedd ei cherddoriaeth yn fod i yrru ysbrydion drwg i ffwrdd. Yn ei theml fawr yn Dendera mae'r colofnau i gyd ar ffurf sistrums.

Hathor oedd prif amddiffynes a noddwr merched yn yr Hen Aifft. Fel duwies serch a hyfrydwch roedd hi'n boblogaidd iawn. Roedd hi'n feistres cerddoriaeth ac adloniant.

Ond yn ogystal â gofalu am y Byw gofalai am y Meirw fel "Brenhines y Gorllewin" sy'n croesawu eneidiau. Yn yr agwedd hon roedd hi'n gysylltiedig yn arbennig â necropolis Thebes.

Prif gysegrfan Hathor oedd eu theml yn Dendera, yn yr Aifft Uchaf rhwng Abydos a Luxor. Yno fe'i haddolid gyda'i fab Ihy "Canwr y Sistrum." Dethlid gwyliau crefyddol mawr yn Dendera. Y pwysicaf oedd i groesawu'r Flwyddyn Newydd, penblwydd Hathor.

Y tu hwnt i'r Aifft ei hun roedd Hathor yn cael ei haddoli yng Ngwlad Pwnt (Punt: Ethiopia efallai) ac felly fe'i gelwid yn "Feistres gwlad Pwnt"; mae'n bosibl mai o'r rhanbarth hono y daeth i'r Aifft. Yn y Sinai roedd hi'n cael ei haddoli dan yr enw "Meistres gwlad Mefket" ac yn Ffenicia fel "Arglwyddes Byblos".

Cyfeiriadau a darllen pellach[golygu]

  • Margaret A. Murray, The Splendour that was Egypt (Llundain, 1963; sawl argraffiad ers hynny)
  • Sawl awdur, Egyptian Mythology (Paul Hamlyn, Llundain, 1966; sawl argraffiad ers hynny)