Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Alffred Fawr

Oddi ar Wicipedia
Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Alffred Fawr



Alffred Fawr (848/849 - 26 Hydref 899) oedd Brenin Wessex rhwng 871 a c.886 a Brenin yr Eingl-Sacsoniaid rhwng c. 886 a 899. Ef oedd mab ieuengaf y Brenin Æthelwulf o Wessex.[1] Bu farw ei dad pan oedd yn ifanc, a bu tri brawd Alffred, Æthelbald, Æthelberht ac Aethelred, yn rheoli o flaen Alffred.[2]

Wedi iddo ddod i’r orsedd, treuliodd Alffred sawl blwyddyn yn brwydro yn erbyn ymosodiadau gan y Llychlynwyr.[3] Enillodd fuddugoliaeth bwysig ym Mrwydr Edington yn 878 a lluniodd gytundeb gyda’r Llychlynwyr, gan sefydlu Cyfraith y Daniaid yng ngogledd Lloegr yn y pen draw. Arolygodd Alffred hefyd droedigaeth grefyddol yr arweinydd Llychlynnaidd, Guthrum, i Gristnogaeth.[4][5] Llwyddodd i amddiffyn ei deyrnas rhag ymosodiadau ac ymdrechion y Llychlynwyr i goncro ei deyrnas, ac oherwydd hynny datblygodd i fod yn brif lywodraethwr Lloegr. Mae gwybodaeth am ei fywyd wedi ei chynnwys yng ngwaith yr esgob a’r ysgolhaig Asser.

Roedd Alffred yn enwog am fod yn ddyn dysgedig a thrugarog, gyda natur hawddgar a phwyllog a oedd yn hyrwyddo addysg a dysg. Un o’i awgrymiadau yn y maes hwn oedd cynnig bod addysg gynradd yn cael ei chyflwyno mewn Hen Saesneg yn hytrach na Lladin.[6] Bu hefyd yn unigolyn pwysig o ran sicrhau bod gwelliannau'n digwydd o fewn y gyfundrefn gyfreithiol a milwrol, ac ymdrechodd i wella cyflwr bywyd cyffredinol ei bobl.[7] Rhoddwyd y teitl ‘Fawr’ iddo yn ystod ac ar ôl Diwygiad y 16eg ganrif. Ef, ynghyd â’r Brenin Danaidd, Cnut Fawr neu Canute, yw’r unig frenhinoedd yn hanes Lloegr sydd wedi cael eu hanrhydeddu gyda’r ansoddair hwn.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Alffred rhwng 847 ac 849 O.C. yn Wantage. Roedd yn fab i bumed Brenin Wessex, Ethelwulf, a’i wraig gyntaf, Osburga. Dywedir bod Alffred wedi mynd i Rufain pan oedd yn bump oed, ac iddo ymweld â Siarl, Brenin Ffrainc, gyda’i dad rhwng 854 ac 855. Bu farw Ethelwulf yn 858, a rheolwyd Wessex gan dri brawd Alffred, un ar ôl y llall. Am flynyddoedd, bu'n rhaid iddynt dalu'n ddrud i'r Daniaid am adael llonydd i'w pobl, ond yn 870 glaniodd llu enfawr ohonynt a chafwyd blynyddoedd o frwydro. Cofnodir i o leiaf 9 brwydr ddigwydd, gydag Alffred yn cael y llaw uchaf ar 5 Ionawr 871 gerllaw Reading, a phum diwrnod yn ddiweddarach ym Mrwydr Ashdown (Berkshire), ond ar 22 Mawrth lladdwyd ei frawd Ethelred ym Mrwydr Merton yn Wiltshire.

Brenin Wessex[golygu | golygu cod]

Coronwyd Alffred yn frenin Wessex ac aeth ati i geisio heddwch.

Cofiant[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd yr esgob Asser y Vita Ælfredi regis Angul Saxonum yn 893.

Alffred mewn celfyddyd[golygu | golygu cod]

Mae opera enwog gan Thomas Arne am Alffred sy'n cynnwys y gân Rule Britannia gan James Thomson fel ffinale. Mae'r gân yn ymgais fwriadol i asio hanes brenin Lloegr gyda'r enw Prydain.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Abels, Richard Philip, 1951- (1998). Alfred the Great : war, kingship, and culture in Anglo-Saxon England. Harlow, England: Longman. ISBN 0-582-04047-7. OCLC 38948415.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. Asser, John, -909. Alfred the Great : Asser's Life of King Alfred and other contemporary sources. Keynes, Simon., Lapidge, Michael. Harmondsworth, Middlesex, England. ISBN 0-14-044409-2. OCLC 10380574.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. The Anglo-Saxon Chronicle (yn Saesneg). 1 Medi 1996.
  4. "Alfred the Great", 1911 Encyclopædia Britannica Volume 1, https://en.wikisource.org/wiki/1911_Encyclop%C3%A6dia_Britannica/Alfred_the_Great, adalwyd 2020-09-07
  5. Asser, John, -909. Alfred the Great : Asser's Life of King Alfred and other contemporary sources. Keynes, Simon., Lapidge, Michael. Harmondsworth, Middlesex, England. ISBN 0-14-044409-2. OCLC 10380574.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  6. Abels, Richard Philip, 1951- (1998). Alfred the Great : war, kingship, and culture in Anglo-Saxon England. Harlow, England: Longman. ISBN 0-582-04047-7. OCLC 38948415.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  7. Abels, Richard Philip, 1951- (1998). Alfred the Great : war, kingship, and culture in Anglo-Saxon England. Harlow, England: Longman. ISBN 0-582-04047-7. OCLC 38948415.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  8. "Thomson, James (poet, 1700–1748)", 1911 Encyclopædia Britannica Volume 26, https://en.wikisource.org/wiki/1911_Encyclop%C3%A6dia_Britannica/Thomson,_James_(poet,_1700%E2%80%931748), adalwyd 2020-09-03
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.