Thomas Arne

Oddi ar Wicipedia
Thomas Arne
Ganwyd12 Mawrth 1710 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 1778 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
AddysgDoctor of Music Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amComus Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Mudiadcerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata
TadThomas Arne Edit this on Wikidata
PriodCecilia Young Edit this on Wikidata
PlantMichael Arne Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr Seisnig oedd Thomas Augustine Arne (12 Mawrth 17105 Mawrth 1778).

Cafodd ei eni yn Llundain. Brawd y cantores Susannah Maria Arne oedd ef. Er bod teulu Arne yn gwneuthurwyr dodrefn, roedd digon o gyfoeth yn y teulu i'w anfon i Eton ac i fyw mewn tŷ cyfforddus yn Covent Garden ger y tŷ Opera. Yno yn yr Italian Opera cwrddodd a'r cyfansoddwr Michael Christian Festing a ddaeth yn diwtor fiolin iddo ac yn fentor hefyd. Aethon nhw i Rydychen yn 1733 i weld opera Handel 'Athalia'.

Wedi gadael yr ysgol aeth yn brentis i gyfreithwr am dair blynedd, ond trodd ar gerddoriaeth fel gyrfa. Roedd ei chwaer yn gontralto enwog, Susannah Maria Arne ac ei frawd yn canu hefyd. Rhwng 1733 a 1776, cyfansoddodd Arne dros 90 darn i'r llwyfan, yn cynnwys dramau, masciau, pantomimau, ac operau. Collwyd llawer o'r sgriptiau mewn tân mawr yn y Tŷ Opera Brenhinol ym 1808. Er bod Arne yn Gatholig roedd e hefyd yn aelod o'r Seir Rhyddion, a'u pencadlys yn ardal Covent Garden gerllaw. Am hyn nad oedd cerddoriaeth ar gyfer yr Eglwys (anglicanaidd) ganddo. Priododd Cecilia Young ar 15ed Mawrth 1737, eu mab oedd y cyfansoddwr Michael Arne. Daeth yn ffefryn i Frederick, Tywysog Cymru, ac yn ei dŷ ef, Cliveden, y perfformwyd ei Masque of Alfred, a chlywodd y byd "Rule Britannia" am y tro cyntaf. Rhwng 1755 a 1777, ymwahanodd oddi wrth Cecilia, ond daeth hi yn ôl ar gyfer ei gystudd olaf yn 1777, a bu farw 1778. Fe'i gladdwyd yn yr "Eglwys yr Actorion", sef Eglwys Sant Paul, Covent Garden, Llundain.

Dolenni a chyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweithiau cerddorol[golygu | golygu cod]

Opera (detholiad)[golygu | golygu cod]

  • 1733 Rosamond – opera seria
  • 1740 Alfred – opera (yn cynnwys "Rule, Britannia!")
  • 1741 The Blind Beggar of Bethnal Green – opera
  • 1745 The Temple of Dullness – opera burlesque
  • 1750 Don Saverio – opera digri
  • 1754 Eliza – opera
  • 1760 Thomas and Sally, neu The Sailor’s Return - opera digri
  • 1762 Artaxerxes – opera
  • 1776 Caractacus – opera


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.