Daniel Radcliffe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Daniel Radcliffe

Actor Seisnig yw Daniel Jacob Radcliffe[1][2] (23 Gorffennaf 1989). Adnabyddir ef orau am ei rôl fel Harri Potter ymhob un o'r pump ffilm yn seiliedig ar y llyfrau hynod boblogaidd Harry Potter. Fe fydd hefyd yn ymddangos yn y tri ffilm olaf yn y gyfres.

Mae Radcliffe hefyd wedi actio mewn cynhyrchiadau llwyfan a nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu eraill, gan gynnwys y ffilm ITV My Boy Jack a'r drama lwyfan Equus, a gafodd feirniadaethau canmoladwy iawn. Credir fod ganddo ffortiwn bersonol o ychydig yn llai na £20 miliwn, a ddaeth yn bennaf o'i gytundeb gyda'r ffilmiau Harry Potter.

[golygu] Bywgraffiad

Ei fywyd cynnar

Ganwyd Radcliffe yn Ysbyty'r Frenhines Charlotte, Gorllewin Llundain, Lloegr. Ef oedd unig fab Alan Radcliffe, asiant llenyddol, a Marcia Gresham (ganed Marcia Gresham Jacobson), asiant castio a oedd ynghlwm â nifer o ffilmiau ar gyfer y BBC gan gynnwys The Inspector Lynley Mysteries ac yn fwy diweddar Walk Away and I Stumble. Iddewes yw mam Radcliffe a gafodd ei magu yn Westcliff-on-Sea, Essex; magwyd ei dad yng Ngogledd Iwerddon. Dangosodd Radcliffe ddiddordeb mewn actio am y tro cyntaf pan oedd yn bum mlwydd oed. Ym mis Rhagfyr 1999, cafodd ei ran cyntaf yn addasiad dwy-ran y BBC o nofel Charles Dickens "David Copperfield". Chwaraeodd ran y prif gymeriad.

[golygu] Ffilmiau

[golygu] Ffynonellau

  1.  Daniel Radcliffe (actor bio). HarryPotter.Warnerbros.
  2. Daniel Radcliffe, or Daniel Jacob Radcliffe (British actor) - Britannica Online Encyclopedia
Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill