Dafydd Gam
Bonheddwr canoloesol Cymreig oedd Dafydd ap Llewelyn ap Hywel neu Dafydd Gam (tua 1380 – 25 Hydref 1415). Roedd yn frodor o ardal Aberhonddu, Brycheiniog. Caiff ei ystyried gan rai yn arch-fradwr i'r achos Cymreig.
Roedd yn wrthwynebwr blaengar i Owain Glyndŵr yn ne-ddwyrain Cymru. Cymerwyd ef yn garcharor gan Glyndŵr yng nghyffiniau Aberhonddu tua 1410 (neu o bosibl 1412).
Yn ddiweddarach, bu'n ymladd dros Harri V yn y Rhyfel Can Mlynedd yn Ffrainc, a lladdwyd ef ym Mrwydr Agincourt yn 1415. Mae traddodiad iddo gael ei urddo'n farchog ar faes y frwydr cyn iddo farw, ond nid oes tystiolaeth i gadarnhau hyn. Cyfeirir ato yn y ddrama Henry V gan William Shakespeare lle mae'n ymddangos fel un o ysweiniaid brenin Lloegr.
Credir i'r llysenw "Gam" gael ei ennill, efallai gan mai dim ond un llygad oedd ganddo neu ei fod yn llygatgroes.
Trwy briodas ei ferch Gwladus â Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, roedd yn gyndad i deulu grymus yr Herbertiaid a hefyd i rai o Ieirll Penfro.