William ap Thomas

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Wiliam ap Tomas)
William ap Thomas
Dyluniad o gerflun o William ap Thomas.
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Bu farw1446 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
TadThomas ap Gwyllym Edit this on Wikidata
MamMaud Morley Edit this on Wikidata
PriodGwladys ferch Dafydd Gam, Elizabeth Bluet, Margaret ap Griffith Edit this on Wikidata
PlantWilliam Herbert, Richard Herbert, Margaret Herbert, John Gwilim Herbert, Elizabeth Herbert, Margred Herbert Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Uchelwr Cymreig ac adeiladydd Castell Rhaglan oedd Syr William ap Thomas (bu farw 1445). Ef oedd sylfaenydd Teulu'r Herbertiaid.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Daeth Castell Rhaglan i'w feddiant pan briododd Elizabeth Bloet, gweddw Syr James Berkeley, yn fuan wedi 1406. Wedi i Elizabeth farw yn 1420, cadwodd William ei afael ar Raglan fel tenant ei lysfab, James Berkeley, Barwn 1af Berkeley, ac yn 1425 cytunodd Berkeley iddo gadw Rhaglan am weddill ei oes.

Ail-briododd William gyda Gwladys, merch Dafydd Gam, a gweddw Syr Roger Vaughan. Urddwyd ef yn farchog gan Harri VI, brenin Lloegr yn 1426, a chafodd y llysenw "Y marchog glas o Went" .

Daeth yn ffigwr pwysig yn Ne Cymru, gan ddod yn stiward Arglwyddiaeth y Fenni yn 1421, ac yn ddiweddarach yn brif stiward stadau Dug Efrog yng Nghymru yn 1442-1443. Apwyntiwyd ef yn Siryf Sir Aberteifi a sir Gaerfyrddin yn 1435, ac yn siryf Sir Forgannwg yn 1440. Yn 1432, prynodd faenor Rhaglan oddi wrth deulu Berkeley am tua 667 punt. Tua'r adeg yma, yn ôl pob tebyg, y dechreuodd adeiladu'r castell presennol. Bu farw yn Llundain yn 1445, a chladdwyd ef yn Egwys Priordy'r Fenni.

Disgynyddion[golygu | golygu cod]

Cafodd William a Gwladys y plant canlynol:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]