Cyrus Fawr

Oddi ar Wicipedia
Cyrus Fawr
Ganwydc. 600 CC Edit this on Wikidata
Anshan Persia Edit this on Wikidata
Bu farw530 CC Edit this on Wikidata
Sir Daria Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Ymerodraeth Achaemenaidd, Anshan Persia Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines, arweinydd milwrol, sefydlydd mudiad neu sefydliad, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddUwch Frenin, King of Kings Edit this on Wikidata
TadCambyses I Edit this on Wikidata
MamMandane o Media Edit this on Wikidata
PriodCassandane, Amitis Shahbanu, Neithiyti Edit this on Wikidata
PlantCambyses II, brenin Persia, Smerdis, brenin Persia, Atossa, Roxane, Artystone Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllyn yr Achaemenid Edit this on Wikidata

Cyrus Fawr, Perseg: کوروش بزرگ, Kurosh-e Buzurg neu کوروش کبیر Kurosh-e Kabeer (c. 600 CC neu 576 - Awst 530 CC neu 529 CC), hefyd Cyrus II, brenin Persia oedd sylfaenydd yr Ymerodraeth Achaemenaidd.

Ceir nifer o hanesion gwahanol am ei fywyd cynnar. Yn ôl Herodotus, roedd yn ŵyr i Astyages, brenin Media, ond wedi ei fagu gan ffermwyr tlawd.

Roedd o lwyth Persaidd y Pasargadae a thylwyth yr Achaemenidae. Cyn iddo uno'r Mediaid a'r Persiaid mewn un deyrnas, roedd yn frenin Anshān, teyrnas yn yr hyn sy'n awr yn dde Iran. Adeiladodd Cyrus ei brifddinas, Pasargadae, yn yr ardal yma.

Bu'n frenin Persia am bron 30 mlynedd, ac adeiladodd ymerodraeth yn ymestyn o ffiniau yr Aifft hyd Afon Indus. Gorchfygodd Ymerodraeth y Mediaid, Ymerodraeth Newydd Babilon ac Ymerodraeth Lydia. Lladdwyd ef ar hyd y Syr Darya tra'n ymladd yn erbyn y Scythiaid. Olynwyd ef gan ei fab, Cambyses II.

Rhagflaenydd:
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia
559 CC - 530 CC
Olynydd:
Cambyses II