Scythia
Oddi ar Wicipedia
Yn yr Henfyd, Scythia (Hen Roeg Σκυθία Skythia) oedd yr enw ar yr ardal yn Ewrasia lle trigai'r Scythiaid, o'r 8fed ganrif CC hyd yr 2il ganrif OC. Roedd ei ffiniau yn amrywio dros amser; tueddai i ymestyn ymhellach i'r gorllewin nag ar y map.
Roedd Scythia fel rheol yn cynnwys:
- Y Paith Pontic-Caspaidd: Kazakhstan, de Rwsia a dwyrain Wcrain
- Gogledd y Cawcasws, yn cynnwys Azerbaijan a Georgia
- Sarmatia, Wcrain, Belarus, Gwlad Pwyl hyd ar yr Oceanus Sarmaticus
- De yr Wcrain a rhan isaf afon Donaw gyda rhan o Bwlgaria (Scythia Minor)