Sir Daria
Oddi ar Wicipedia
Môr Aral (cyn 1985) gydag Amudarja a'r Sir Daria.
Afon yn Nghanolbarth Asia yw'r Sir Daria, hefyd Syr Darya ac amrywiadau eraill, yn y cyfnod clasurol afon Jaxartes. Mae'n 2,212 km o hyd, ac yn llifo i Fôr Aral.
Ffurfir yr afon pan mae afon Naryn ac afon Karadarja yn ymuno ger Ferghanatal yn Uzbekistan, rhwng mynyddoedd y Tien Shan a'r Alai. Llifa tua'r gorllewin i mewn i Tajikistan cyn dychwelyd i Uzbekistan. Llifa tua'r gogledd i mewn i Kazakstan.
Defnyddir dyfroedd yr afon yn helaeth ar gyfer dyfrhau, ac mae nifer o gronfeydd ar ei hyd. Mae'r afon yn aml wedi sychu'n llwyr cyn cyrraedd Môr Aral.