Cynllun Ibarretxe

Oddi ar Wicipedia

Cynllun a gynigiwyd gan Juan José Ibarretxe, lehendakari (arlywydd) llywodraeth Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg oedd Cynllun Ibarretxe, enw llawn yn Sbaeneg Propuesta de Estatuto Político de la Comunidad de Euskadi. Cyflwynwyd y cynllun i'r Senedd Fasgaidd ar 25 Hydref 2003, a derbyniwyd ef gan y senedd ar 30 Rhagfyr 2004. Bw'riad y cynllun oedd cryfhau'r grymoedd a'r hawliau i senedd Euskadi a'r Basgiaid fel pobl fel yr amlinellwyd yn Statud Ymreolaeth Gwlad y Basg 1979.

Gyrrwyd y cynllun ymlaen i Gyngres Sbaen yn Ionawr 2005, ond mewn pleidlais yno ar 1 Chwefror, gwrthodwyd ef o 313 pleidlais yn erbyn (PSOE, PP, IU, CC a CHA), a 29 pleidlais o blaid (PNV, ERC, CiU, EA, Na-Bai a BNG).

Roedd y cynllun yn cynnig Ystatud Hunanlywodraeth yn seiliedig ar dair egwyddor:

  • Fod y Basgiaid yn un o bobloedd Ewrop, gyda'i hunaniaeth ei hunain.
  • Fod ganddynt yr hawl i benderfynu eu dyfodol eu hunain.
  • Fod penderfyniadau pobl pob rhan o Wlad y Basg (Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, Navarra ac Iparralde) i'w parchu gan y gweddill a gweddill pobl Ewrop.

Roedd manylion y cynllun yn cynnwys mesur helaeth o hunanlywodraeth, yn cynnwys cynrychiolaeth uniongyrchol yn Ewrop