Juan José Ibarretxe
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Basgaidd yw Juan José Ibarretxe Markuartu (ganed 15 Mawrth 1957). Mae'n aelod o Blaid Genedlaethol Gwlad y Basg (EAJ-PNV). Ef oedd Lehendakari (arlywydd) presennol Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg rhwng 1999 a 2009.
Ganed ef yn Laudio yn nhalaith Araba. Graddiodd mewn economeg o Brifysgol Bilbao, yn awr Prifysgol Gwlad y Basg. Dechreuodd ei yrfa fel gwleidydd yn 1979, pan enillodd etholiad i ddod yn faer Laudio. Wedi cyfnod fel dirprwy Lehendakari, daeth yn Lehendakari ar 2 Ionawr 1999.
Yn 2003, cyflwynodd Gynllun Ibarretxe i'r senedd Fasgaidd, cynllun fyddai'n rhoi mesur helaeth o hunanlywodraeth i'r Basgiaid. Derbyniwyd y cynllun gan y senedd Fasgaidd, ond gwrthodwyd ef gan Gyngres Sbaen yn 2005.