Esquerra Republicana de Catalunya

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo Esquerra Republicana


Esquerra Republicana de Catalunya
Ideoleg Asgell-chwith/Annibyniaeth
Sefydlwyd 1931
Arweinydd presennol Oriol Junqueras
Grŵp Senedd Ewrop Gwyrdd-Gynghrair Rhydd Ewrop (EFA)
Gwefan http://www.esquerra.cat/

Plaid genedlaetholgar, adain-chwith[1] yn anelu at annibyniaeth Catalonia yw'r Esquerra Republicana de Catalunya (Catalaneg), yn golygu Chwith Weriniaethol Catalonia. ERC neu Esquerra (Chwith) yn fyr.[2][3]

Ym marn Esquerra, fel y mwyafrif o'r pleidiau Catalaneg sy'n ceisio annibyniaeth, mae "Catalonia" yn cynnwys nid yn unig Cymuned Ymreolaethol Catalonia ond y tiriogaethau eraill lle siaredir Catalaneg, a elwir y Països Catalans ("gwledydd Catalanaidd’’), yn cynnwys y rhan fwyaf o'r Comunidad Valenciana, yr Ynysoedd Balearig, rhan o Aragón a Rosellón yn Ffrainc, a elwir yn Ogledd Catalonia. Mae Esquerra yn sefyll yn etholiadau neu â phresenoldeb trwy’r ardaloedd yma.[4]

Arweinydd presennol y blaid yw Oriol Junqueras, mae ganddi aelodau yng Nghyngres a Senedd Sbaen ac ers etholiadau 2012 Esquerra yw'r ail blaid fwyaf yn Parlament de Catalunya (Senedd Catalonia).

Yn etholiadau Senedd Ewrop 2014 ennilodd Esquerra 23.6% o’r pleidlas yng Nghatalonia - ei chanlyniad gorau ers y 1930au). Mae ei dau aelod o Senedd Ewrop sydd yn eistedd yn grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop) gyda chynrychiolwyr pleidiau gwyrddion a chefnogwyr annibyniaeth o sawl gwlad yn cynnwys Plaid Cymru a'r SNP.

Hanes[golygu]

Luis Companys

Sefydlwyd y blaid yn ninas Barcelona yn 1931. Bu ganddi ran bwysig yng ngwleidyddiaeth y 1930au gan ennill etholiadau Catalonia ym 1934 a 1936 o dan arweiniad Francesc Macià a Lluís Companys a cheisiodd ddatgan Weriniaeth Gatalaeng erbyn ewyllus llywodraeth Madrid.[5]

Roedd yr ymgais i ddatgan gweriniaeth yn un o’r elfennau argyfwng gwleidyddol Sbaen a wnaeth arwain i ddechrau Rhyfel Cartref Sbaen ym mis Gorffennaf 1936. Daeth Esquerra yn rhan o’r Frente Popular (Ffrynt Poblogaidd) o fudiadau asgell chwith oedd yn brwydro yn erbyn lluoedd ceidwadol asgell dde o dan arweiniad y Cadfridog Francisco Franco.

Yn 1939, wedi colli’r rhyfel, cafodd bleidiau’r Frente Popular eu gwneud yn anghyfreithlon. Cafodd Lluis Companys ei ddienyddio gan sgwad saethu yng Nghastell Montjuïc, Barcelona ym 1941.

Pan ail-seflydlwyd democrataeth yn Sbaen yn dilyn farwolaeth Franco yn 1975 fe ail sefydlwyd Senedd Catalonia ac mae Esquerra wedi sefyll yr etholiadau.

Ennillwyd 23 sedd yn 2003 a ffufwyd clymbaid gyda Partit dels Socialistes de Catalunya (Plaid Sosialaidd Cataonia) ac Iniciativa per Catalunya Verds-Esquerra Unida i Alternativa (ICV-EUiA) (Plaid Werdd Gatalonia – Chwith Uniedig, Amgen).

Yn 2006 penderfynodd Esquerra beidio â chefnogi newidiadau i’r Estatut d'Autonomia de Catalunya (Deddf Datganoli Catalonia) i roi mwy o hunanlywodraeth i Gatalonia gan ddadlau nad oedd y newidiadau yn mynd yn ddigon pell.

Mae nifer o bleidiau Catalaneg, yn cynnwys Esquerra, wedi bod yn galw ar Lywodraeth Madrid am y hawl i gynnal reffferendwm ar hunanlywodaeth referèndum d'autodeterminació de Catalunya gan obeithio ei gynnal ym mis Medi 2014 - sef 300 mlwyddiant ers i Gatalonia colli annibynnaieth i Sbaen.[6]

Symbolau[golygu]

Senyera Estelada Roig (Senyera Serenog Goch)

Mae cefnogwyr y Blaid yn defnyddio'r senyera estelada fersiwn o faner senyera Catalonia gyda seren goch ar gefndir triongl melyn neu seren wen ar gefndir triongl glas, y seren yn sefyll dros annibyniaeth. [7]

Senedd Catalonia[golygu]

Blwyddyn yr etholaid # o bleidleisiau  % o'r holl bldieais +/-
1988 111,647 4.1 (#5)
1992 210,366 7.9 (#3) increase 5
1995 305,867 9.4 (#4) increase 2
1999 271,173 8.6 (#4) Decrease 1
2003 544,324 16.4 (#3) increase 11
2006 416,355 14.0 (#3) Decrease 2
2010 218,046 7.0 (#5) Decrease 11
2012 496,292 13.7 (#2) increase 11

Arweinwyr Esquerra[golygu]

  1. Francesc Macià (1931-1933)
  2. Lluís Companys (1933-1935)
  3. Carles Pi i Sunyer (1933-1935)
  4. Lluís Companys (1936-1940)
  5. Heribert Barrera (1993-1995)
  6. Jaume Campabadal (1995-1996)
  7. Jordi Carbonell (1996-2004)
  8. Josep-Lluís Carod-Rovira (2004-2008)
  9. Joan Puigcercós (2008-2011)
  10. Oriol Junqueras (Ers 2011)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ari-Veikko Anttiroiko; Matti Mälkiä (2007). Encyclopedia of Digital Government. Idea Group Inc (IGI). tud. 394–. ISBN 978-1-59140-790-4. http://books.google.com/books?id=iDrTMazYhdkC&pg=PA394. 
  2. Guibernau, Montserrat (2004), Catalan Nationalism: Francoism, transition and democracy, Routledge, p. 82 
  3. Hargreaves, John (2000), Freedom for Catalonia?: Catalan Nationalism, Spanish Identity and the Barcelona Olympic Games, Cambridge University Press, p. 84 
  4. Jaume Renyer Alimbau, ERC: temps de transició. Per una esquerra forta, renovadora i plural (Barcelona: Cossetània, 2008).
  5. The Battle for Spain Beevor (2006)
  6. Stobart, Luke. «Catalans are ready for independence – but are their leaders?». The Guardian, 12 Medi 2013 [Consulta: 27 Medi 2013].
  7. Crexell, Joan ‘’Origen de la Bandera Independentista’’ Cyhoeddwyd gan: El llamp, 1984. ISBN: 8486066352

Dolenni allanol[golygu]