Cynhadledd San Remo

Oddi ar Wicipedia
Dirprwyaeth Cynhadledd San Remo

Roedd Cynhadledd San Remo yn ddigwyddiad bwysig ac yn garreg filltir wrth ail-lunio map Ewrop wedi'r Rhyfel Mawr. Cynhaliwyd y gynhadledd gan y Cynghreiriaid buddugol rhwng 19 a 26 Ebrill 1920 y nhref Sanremo yn yr Eidal. Bwriad y Gynhadledd oedd cadarnhau ac chyfreithloni y drefn tiriogaethol a oedd yn rhan o'r ymraniad Ymerodraeth yr Otomaniaid, a gytunwyd rhwng Ffrainc a'r Deyrnas Unedig yng Nghytundeb Versailles a gynhaliwyd y flwyddyn cynt, yn 1919. Ers canol yr 20g arddelwyd y sillafiad Sanremo.

Prif Nodweddion[golygu | golygu cod]

Deliodd Cynhadledd San Remo gyda tiriogaeth Ymerodraeth yr Otomoan yn y Dwyrain Canol.

  • I Ffrainc - Dyfarnwyd Syria a Libanus o dan reolaeth Ffrainc, tra'u bod wedi'u gwahanu oddi ar ei gilydd. Bu cryn ymladdd gan Ffrainc i feddiannu Syria fel mandad.
  • I Brydain - Dyfarfnwyd Irac i Bydain.

Daeth Irac, a drefnwyd fel frenhiniaeth sofran o dan teyrnasiad Feysal I yn hytrach o dan fandad Prydeinig fel Mesopotamia. Gwahanwyd Palesteina, oddi ar Syria (yr hen drefn o dan yr Otomoaniaid lle adnabwyd y rhan fwyaf o'r diriogaeth fel 'De Syria'). Cadarnhwyd ymrwymiad Prydain i Ddatganiad Balfour, gan greu Mandad Palesteina o dan reolaeth Prydain. Roedd y tiriogaeth newydd yn cynnwys Gwlad yr Iorddonen i gychwyn fel rhan o'r un wlad, ond ymranwyd Gwlad yr Iorddonen oddi ar Balesteina rhai blynyddoedd yn ddiweddarach. Ar 24 Ebrill 1920 pleidleisiodd Cynghrair y Cenhedloedd o blaid Mandad Prydain ym Mhalesteina a gan hynny sefydlu beth ddaeth yn egin wladwriaeth Iddewig - gelwir y dyddiad yma, a Chytundeb San Remo gan yr Iddewon fel 'Magna Carta' sefydlu a chydnabod tiriogaeth Iddewig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Yn ystod y cyfarfodydd y 'Cyngor y Pedwar Mawr' (Prydain, Ffrainc, Siapan a'r Eidal gyda'r UDA fel arsylwr niwtral) yn 1919, cyhoeddodd y Prif Weinidog Prydain, David Lloyd George yr ohebiaeth a fu rhwng Husayn a McMahon yn gytundeb rhwymol ac mae'r cytundeb gyda Husayn ibn Ali, Sharif Mecca, a Chytundeb Sykes-Picot a cynigiodd wladwriaeth Arabaidd neu conffederasiwn o wladwriaethau Arabaidd.[2] Ym mis Gorffennaf 1919 gwrthododd senedd Syria Fawr (gwladwriaeth newydd gwrth-drefedigaethol Arabaidd) dderbyn unrhyw ddatganiad gan y Llywodraeth Ffrainc ar unrhyw ran o diriogaeth y wlad newydd.[3]

Ar 30 Medi 1918 datganodd cefnogwyr gwrthryfel Arabaidd yn Damascus ei cefnogaeth i lywodraeth Husayn, a enwyd yn "Brenin arweinwyr crefyddol Arabiaid ym Meca."[4] ar 6 Ionawr 1920, yna tywysog Faisal I o Irac dechreuodd cytundeb gyda Phrif Weinidog Ffrainc, Georges Clemenceau, a oedd yn cydnabod "hawl Syriaid i lywodraethu fel cenedl annibynnol" [5] Gyngres Genedlaethol Syria, yn cyfarfod yn Damascus, datganodd yn wladwriaeth annibynnol Syria ar 8 Mawrth1920.[6]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]