Georges Clemenceau

Oddi ar Wicipedia
Georges Clemenceau
FfugenwPetras Zoufit Edit this on Wikidata
GanwydGeorges Benjamin Clemenceau Edit this on Wikidata
28 Medi 1841 Edit this on Wikidata
Mouilleron-en-Pareds Edit this on Wikidata
Bu farw24 Tachwedd 1929 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr, meddyg, sgriptiwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Swyddarrondissement mayor, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Gweinidog Rhyfel, Llywydd y Cyngor, senator of the French Third Republic, Llywydd y Cyngor, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, seat 3 of the Académie française Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ123565571 Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Radicalaidd, Plaid Sosialwyr-Radical a Gweriniaethwyr Radical Edit this on Wikidata
TadPaul Benjamin Clemenceau Edit this on Wikidata
MamEmma Gautreau Edit this on Wikidata
PriodMary Plummer Edit this on Wikidata
PartnerRose Caron Edit this on Wikidata
PlantMichel Clemenceau, Madeleine Clemenceau-Jacquemaire Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of the White Eagle, Croes am Ddewrder, Croes Rhyddid Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd radicalaidd o Ffrancwr oedd Georges Benjamin Clemenceau (28 Medi 184124 Tachwedd 1929), a anwyd yn Mouilleron-en-Pareds, Ffrainc.

Roedd yn député yn y cynulliad o 1875 ymlaen ac yn arweinydd y Chwith radicalaidd. Roedd Clemenceau yn areithydd penigamp ac yn enwog am ei huodledd darbwyllol; cafodd ei lysenwi le Tombeur de ministères ("Dymchwelwr gweinidogion") ac, yn ddiweddarach, le Tigre ("y Teigr").

Roedd yn gryf o blaid y radicalwr Dreyfus (1859-1935) a ymgyrchai dros hawliau dynol. Gwasanaethodd fel Arlywydd y Cyngor (Président du Conseil) o 1906 i 1909, pan dorrodd oddi wrth y sosialwyr.

Clemenceau (ail o'r dde) gyda Lloyd George, Signor Orlando a Woodrow Wilson yn Versailles

Dychwelodd i rym fel prif weinidog yn 1917 ac ymroddodd yn llwyr i'r Rhyfel Fawr gan ennill cryn boblogrwydd iddo'i hun mewn canlyniad. Cymerodd ran yn y trafodaethau heddwch ar ddiwedd y rhyfel ac arwyddodd Cytundeb Versailles.

Rhagflaenydd:
Ferdinand Sarrien
Prif Weinidog Ffrainc
25 Hydref 190624 Gorffennaf 1909
Olynydd:
Aristide Briand
Rhagflaenydd:
Paul Painlevé
Prif Weinidog Ffrainc
16 Tachwedd 191720 Ionawr 1920
Olynydd:
Alexandre Millerand