Cwymp eira ym Mhrydain ac Iwerddon, Chwefror 2009

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bws Parcio a Teithio yng Nghaerfyrddin
Eira yn Llundain, 2 Chwefror, 2009

Cyfnod hirfaith o gwymp eira o 1 Chwefror i 13 Chwefror 2009 oedd y cwymp eira ym Mhrydain ac Iwerddon, Chwefror 2009.

Effeithiau yng Nghymru[golygu]

Ddydd Mawrth, 3 Chwefror, cafodd 500 o ysgolion eu cau yng Nghymru wedi i hyd at 15 cm o eira disgyn mewn rhai ardaloedd o'r wlad. Caewyd llain lanio Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd er mwyn clirio'r eira.[1]

Ddydd Mercher, 4 Chwefror, caeodd tua 200 o ysgolion oherwydd y tywydd.[2] Ddydd Iau, 5 Chwefror, bu 630 o ysgolion ar draws y wlad ar gau, y mwyafrif yn y de ddwyrain.[3]

Ddydd Gwener, 6 Chwefror, caeodd 300 o ysgolion. Caewyd y ddwy bont dros yr Afon Hafren wedi i dalpiau o rew gwympo a thorri ffenestri blaen chwe char.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Eira: 500 o ysgolion wedi cau. BBC (3 Chwefror, 2009). Adalwyd ar 7 Chwefror, 2009.
  2.  Trydydd diwrnod o drafferth tywydd. BBC (4 Chwefror, 2009). Adalwyd ar 7 Chwefror, 2009.
  3.  Tywydd: Ffyrdd ac ysgolion yn cau. BBC (6 Chwefror, 2009). Adalwyd ar 7 Chwefror, 2009.
  4.  300 o ysgolion ynghau. BBC (6 Chwefror, 2009). Adalwyd ar 7 Chwefror, 2009.

Cysylltiadau allanol[golygu]

Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato