Culfor La Pérouse

Oddi ar Wicipedia

Mae Culfor La Pérouse, neu Culfor Sōya, yn gulfor sydd yn gwahanu ynys ddeheuol Rwsiaidd Sakhalin (Karafuto) a rhan mwyaf gogledd  o Saipan sef Ynys Hokkaidō, ac yn cysylltu  Môr Japan yn y gorllewin gan Môr Okhotsk yn y dwyrain.

Mae'r culfor yn 42 km o hyd a 140m o ddyfnder. Mae rhan gulaf y culfor yn y gorllewin rhwng Rwsia ym Mhentir Krillion a Phentir Soia yn Siapan, sydd hefyd â'r dyfader mwyaf bas yn 60m yn unig.[1] Mae ynys bach creigiog a enwir yn Kamen Opasnosti (sydd yn enw priodol yn Rwsiaidd a olygir "Craig Beryglus") wedi ei leoli yn nyfroedd Rwsiaidd yng ngogledd-ddwyreiniol yr culfor, 12.8 km i'r de-ddwyrain o Bentir Krillion. Mae ynys bychain arall sef Bentenjima, yn gorwedd ger  lannau Siapanëaidd y culfor.

Fe elwid y culfor ar ôl Jean-François de Galaup, comte de Lapérouse, a  archwiliodd y culfor yn 1787.[2]

Mae dyfroedd tiriogaethol Siapan ymestyn i dair milltir forol i Gulfor La Porous yn unig, yn hytrach na'r deuddeg arferol, yn ôl pob deall i ganiatáu llongau rhyfel a llongau danforrol arfog niwclear  Llynges yr Unol Daleithiau i tramwyo'r  culfor heb darfu ar  waharddiad Siapan ar arfau niwclear ar ei thiriogaeth.[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Rhwng 1848 ac 1892, bu llongau hela morfilod  Americanaidd yn pasio trwy'r culfor yn y gwanwyn a'r haf, ar eu ffordd o gynefinnoedd y morfilod Right ym  Môr Siapan hyd at  Môr Okhotsk i hela'r morfilod Right a morfilod pen bwa.[4] Fe ddrylliwyd llong y David Paddack (352 o dunnelli), o dan gapteiniad Capten Swain, o Nantucket, Massachusetts, UDA oedd ar ei ffordd adref yn llawn cargo yn y culfor yn 1848.[5][6]

Y Culfor La Pérouse a'i siartwyd gan Lapérouse ei hun.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "https://www.pices.int/publications/scientific_reports/Report12/danchenkov_f.pdf Oceanographic Features of LaPerouse Strait", North Pacific Marine Science Organization, June 1984; retrieved 2 November 2016.
  2. THE 17TH AND 18TH CENTURIES Archifwyd 2008-03-25 yn y Peiriant Wayback. Error in webarchive template: Check |url= value. Empty.
  3. Kyodo News, "Japan left key straits open for U.S. nukes", Japan Times, June 22, 2009.
  4. Eliza Adams, of Fairhaven, Aug. 4, 1848, Old Dartmouth Historical Society (ODHS); Arnolda, of New Bedford, June 17, 1874, ODHS; Cape Horn Pigeon, of New Bedford, July 13-14, 1892, Kendall Whaling Museum.
  5. Bowditch, of Warren, Aug. 6, 1848, Nicholson Whaling Collection.
  6. Starbuck, Alexander (1878). History of the American Whale Fishery from Its Earliest Inception to the year 1876. Castle. ISBN 1-55521-537-8.