Crychddail eddiog

Oddi ar Wicipedia
Crychddail eddiog
Fossombronia fimbriata
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Fossombroniales
Teulu: Fossombroniaceae
Genws: Fossombronia
Rhywogaeth: F. fimbriata
Enw deuenwol
Fossombronia fimbriata

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Crychddail eddiog (enw gwyddonol: Fossombronia fimbriata; enw Saesneg: fragile frillwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Fossombroniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod mewn rhyw dri lle yng Nghymru, ac felly hefyd yn Iwerddon; fe'i ceir hefyd mewn un lle yn Lloegr a tua dwsin o lefydd yn yr Alban.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r dail yn wyrdd i felyn-wyrdd sy'n rhoi golwg unigryw ar y planhigion yma. Mae'n tyfu ar ochr ffyrdd neu lwybrau graeanog ar bridd llaith ar ymyl nentydd a llynnoedd ac ar dir wedi'i sathru gan wartheg lle mae traciau da byw yn cwrdd â nentydd ar dir pori ar yr ucheldir.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Crychddail eddiog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.