Crugiau Carn Ingli

Oddi ar Wicipedia
Crugiau Carn Ingli
Mathcrug crwn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTrefdraeth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.006582°N 4.822097°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwPE019 Edit this on Wikidata

Crugiau crynion a godwyd gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy crugiau Carn Ingli, ar lethrau mynydd Carn Ingli yng nghymuned Trefdraeth, Sir Benfro; cyfeiriad grid SN064380.

Cofrestrwyd un o'r crugiau gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: PE019.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Henebion eraill[golygu | golygu cod]

Ceir bryngaer o Oes yr Haearn ar gopa Carn Ingli, gydag olion tai o'r un cyfnod. Ceir hefyd cae llawn carneddau gerllaw, gyda thros 20 carnedd yno, a hynny mewn ardal 70 metr sgwar; cyfeirnod grid: SN0601537865. Gerllaw hefyd ceir pedwar cylch o gytiau canoloesol yn SN05463684.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-09.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato