Crug y Bryncws

Oddi ar Wicipedia
Crug y Bryncws
Mathcrug crwn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlandudoch Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.075109°N 4.699446°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN151453 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwPE326 Edit this on Wikidata

Crug crwn enfawr a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug y Bryncws (Saesneg: Foxhill Round Barrow), yng nghymuned Llandudoch, Sir Benfro; cyfeiriad grid SN151453. Mae'n mesur 50 metr mewn diamedr ac yn 3.4 metr o ran uchder, sy'n ei gwneud yn un o'r crugiau mwyaf yng Nghymru. Oherwydd ei faint, cred rhai archaeolegwyr mai bryncyn naturiol ydyw, er nad oes cloddfa wedi bod yma.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: PE326.[1]

Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb. Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-10.