Crug crwn Meini Gwyr

Oddi ar Wicipedia
Crug crwn Meini Gwyr
Mathcrug crwn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.906735°N 4.702903°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN1456027020 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCM050 Edit this on Wikidata

Crug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug crwn Meini Gwyr, yng nghymuned Cilymaenllwyd, Sir Gaerfyrddin; cyfeiriad grid SN145270. Mae ei ddiamedr yn 36.5 metr. Mae'r crug crwn hwn o fath eitha prin yng Nghymru ac o ddiddordeb mawr i'r archaeolegydd. Roedd yma 17 o gerrig, sef rhan o gylch cerrig Neolithig tan yn ddiweddar. bellach erys dwy garreg: y naill yn un fetr a'r llall yn 1.7m.[1]

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: CM050.[2] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Coflein[dolen marw]
  2. Cofrestr Cadw.
  3. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-10.