Creulondeb i anifeiliaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae creulondeb i anifeiliaid yn cyfeirio at achosi dioddefaint neu niwed diangen i anifail.

Yn gyffredinol, mae yna ddwy safbwynt gwahanol tuag at y pwnc hwn. Cred y safbwynt lles anifeiliaid nad oes unrhyw beth yn anghywir yn ei hun mewn defnyddio anifeiliaid am resymau dynol, megis am fwyd, dillad, adloniant ac ymchwil, ond dylid ei wneud mewn modd gwaraidd sy'n lleihau unrhyw ddiddefaint diangen. Mae theoryddion hawliau anifeiliaid yn beirniadu'r safbwynt hyn gan ddadlau fod y geiriau "diangen" a "gwaraidd" yn medru cael eu dehongli'n wahanol ac mae'r unig ffordd i sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu hamddiffyn yw i ddiweddu eu statws fel eiddo ac i sicrhau nad ydynt byth yn cael eu defnyddio fel adnoddau.

Y gyfraith[golygu]

Mae nifer o wledydd ledled y byd wedi cyflwyno deddfau sy'n gwahardd creulondeb tuag at rai anifeiliaid ond mae rhain yn amrywio o wlad i wlad ac mewn rhai achosion yn amrywio o ran defnydd.

Awstralia[golygu]

Yn Awstralia, mae nifer o daleithiau wedi cyflwyno deddfau sy'n gwahardd crelondeb tuag at anifeiliaid. Fodd bynnag, caiff ei ddadlau nad yw'r deddfau hyn yn ymestyn i anifeiliaid cynnyrch.[1] Tra bod yr heddlu yn gyfrifol am weithredu'r deddfau hyn ac am ddwyn achosion gerbron y llys, mewn nifer o daleithiau mae gan swyddogion yr RSPCA ac elusennau hawliau anifeiliaid eraill hawl i ymchwilio a dwyn achosion o greulondeb i anifeilaid gerbron y llys.

Yn syml, mae'r mwyafrif o ddeddfau yn dibynnu ar swyddogion na sydd yn gyfarwydd â maes creulondeb i anifeiliaid i weithredu'r gyfraith. Clywir yn aml ar raglenni newyddion lleol am droseddau difrifol yn erbyn anifeiliaid ond mae'r mwyafrif o achosion yn ymwneud ag anifeilaid sydd heb gael bwyd neu gysgod digonol neu esgeulustod tebyg.

Gweriniaeth Pobl Tsieina[golygu]

Ers 2006 nid oedd unrhyw ddeddfau yn Ngweriniaeth Pobl Tsieina yn ymwneud â chreulondeb i anifeilaid[2] Mewn rhai taleithiau megis Fuzhou, gall swyddogion rheoli anifeiliaid ladd unrhyw gi sydd heb berson ganddo yn syth.

Mecsico[golygu]

Ym Mecsico, mae deddfau i atal creulondeb i anifeiliaid yn dechrau cael eu gweithredu'n araf. Mae Deddf Amddiffyn Anifeilaid y Rhanbarth Ffederal yn eang ac yn seiliedig ar wahardd "dioddefaint diangen". Mae'r ddeddf yn amrywio o wahardd myfyrwyr ysgol uwchradd ac iau rhag dyrannu anifeiliaid i nodi bod perchennog anifail yn gorfod darparu gofal meddygol i anifail sydd ei angen. Ceir cyfreithiau tebyg yn y mwyafrif o daleithiau. Fodd bynnag caiff y deddfwriaeth ei anwybyddu'n agored gan nifer o'r cyhoedd a'r awdurdodau; mae pwysigrwydd deddfwriaeth er mwyn amddiffyn anifeilaid yn datblygu'n araf iawn yn y wlad.

Y Deyrnas Unedig[golygu]

Yn y Deyrnas Unedig, mae creulondeb tuag at anifeilaid yn drosedd a gellir ei gosbi gyda dirwy neu garcharu am hyd at bum mlynedd. Ar y 15fed o Chwefror, 1911 cyflwynodd Tŷ'r Cyffredin y ddeddf Amddiffyn Anifeilaid ar ran y Royal Society for the Prevention of Cruelty to Animals (RSPCA). Y gosb fwyaf ar y pryd oedd 6 mis o lafur caled a dirwy o 25 punt. [3]

Deddf Lles Anifeiliaid 2006 ydy'r darn pwysicaf o ddeddfwriaeth am y pwnc hwn yng ngwledydd Prydain erbyn hyn.

Yr Unol Daleithiau[golygu]

Yn yr Unol Daleithiau mewn rhai taleithiau megis Massachusetts ac Efrog Newydd, gellir apwyntio swyddogion arbennig er mwyn rhoi'r gyfraith yn gwahardd crelondeb i anifeiliaid mewn grym. Mae "Brute Force: Animal Police and the Challenge of Cruelty" gan Arnold Arluke yn astudiaeth ethnograffig o'r swyddogion creulondeb i anifeiliaid hyn.

Yn 2004, cynigiodd deddfwr o Fflorida waharddiad ar "greulondeb i wartheg," gan nodi: "A person who, for the purpose of practice, entertainment, or sport, intentionally fells, trips, or otherwise causes a cow to fall or lose its balance by means of roping, lassoing, dragging, or otherwise touching the tail of the cow commits a misdemeanor of the first degree."[4]

Fodd bynnag, dylid nodi hefyd yn yr Unol Daleithiau fod cropio clustiau, docio cynffonau, chwaraeon rodeo a gweithgareddau eraill sy'n cael eu hystyried mewn gwledydd eraill yn cael eu derbyn. Os ydynt yn cael eu dilyn i fyny, mae'r cosbau am greulondeb i anifeilaid yn fach iawn. Ar hyn o bryd, mae 44 allan o'r 50 talaith wedi cyflwyno cosbau troseddol am fathau penodol o greulondeb tuag at anifeiliaid. [5] Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o daleithiau ystyrir creulondeb tuag at anifeilaid fel trosedd cymharol fechan. Mewn un achos diweddar yn California, gallai troseddwr a ddyfarnwyd yn euog o greulondeb i anifeilaid fod wedi cael ei ddedfrydu mewn theori i 25 mlynedd i fywyd yng ngharchar yn seiliedig ar y gyfraith tair-ergyd, sy'n cynyddu'r cyfnod yng ngharchar yn seiliedig ar record troseddol blaenorol y troseddwr[6]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Graeme McEwen. The fox is in charge of the chickens Animals Australia, Gorff. 4, 2008.
  2. Richard Spencer. Just who is the glamorous kitten killer of Hangzhou? Ebrill 3, 2006.
  3. The Times, Ionawr 1, 1912; t. 3; rhif 39783; col F "The Animals' New Magna Charter"
  4.  Emery, David (2007-06-07). Florida to Consider Ban on Cow Tipping. About.com.
  5. ALDF: Resources
  6. Accused Dog Killer Could Get 25 Years to Life in Prison

Darllen pellach[golygu]

  • Arluke, Arnold. Brute Force: Animal Police and the Challenge of Cruelty, Purdue University Press (August 15, 2004), clawr caled, 175 tudalen, ISBN 1-55753-350-4. Astudiaeth ethnograffeg o swyddogion sy'n dod a ddeddfau gwaraidd i rym.
  • Lea, Suzanne Goodney (2007). Delinquency and Animal Cruelty: Myths and Realities about Social Pathology, clawr caled, 168 tudalen, ISBN 978-1-59332-197-0.
  • Munro H. (The battered pet (1999) In F. Ascione & P. Arkow (Eds.) Child Abuse, Domestic Violence, and Animal Abuse. West Lafayette, IN: Purdue University Press, 199-208.

Dolenni allanol[golygu]

Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (Saesneg)