Sgwrs:Creulondeb i anifeiliaid

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Delwedd graffig[golygu cod]

Mae disgrifiad yn ddigonol, does dim rhaid ei ddangos yn graffig. Dweud y gwir 16:46, 19 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Mae delweddau wastad yn ddefnyddiol (os ydynt yn berthnasol, yn amlwg) ac nid yw Wicipedia yn cael ei sensro. Er hyn, ac er ei fod yn ffotograff diddorol, nid oes cyd-destun i'r llun, ac nid yw crogi eliffantod yn fodd cyffredin iawn o greulondeb i anifeiliaid. —Adam (sgwrscyfraniadau) 16:57, 19 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Dw i'n cael ychydig anawsterau mewn cysoni dy honiad nad yw Wici yn cael ei sensro â'r ffaith wnest ti fy mlocio wythnos ddiwetha gan nad oeddet ti'n hoffi beth roeddwn i wedi ysgrifennu... ond rhaid anghofio'n gwahaniaethau ni a symud ymlaen efallai... iawn, dyma fy ymateb o sylwedd: hyd yn oed pe bai rhywun yn ychwanegu llun o fodd cyffredinach o greulondeb a chyda chyd-destun, fyddwn i ddim yn meddwl bod angen i ddangos creulondeb yn graffig. Nid mewn blas da ydyw. Does dim lluniau yn yr erthygl am lofruddiaeth, a dw i'n gobeithio byddai unrhyw lluniau ohoni yn cael ei sensro. Dw i ddim yn meddwl bod anifeiliaid yn gyfartal i bobl, ond mae tebygolrwydd o fod nifer o garwyr anifeiliaid ymysg y darllenwyr. Dweud y gwir 17:25, 19 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
(O, ie, a thra i mi feddwl amdani, os oes unrhyw Sais sy'n darllen gyda chymorth gwefan cyfieithu, nid carwyr anifeiliad yn y synnwyr hwnnw okay? Dweud y gwir 17:37, 19 Mawrth 2010 (UTC))[ateb]
Ga i holi o dan ba enw defnyddiwr y cefaist ti dy flocio yr wythnos diwethaf? Porius1 17:54, 19 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Gan "Adam", dw i'n 99% siwr. Pan geisiais i olygu erthyglau, dwedodd y system rywbeth am fy nghyfraniadau "gwladgarol ond anaddas". Dweud y gwir 17:59, 19 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Os ydw i'n meddwl am y defnyddiwr cywir, cafodd Y Ddraig Felen ei flocio am wneud sylwadau a oedd yn anaddas ar gyfer gwyddoniadur, ysgrifennu erthyglau gyda'r nod o greu dadl, ysgrifennu erthyglau bwriadol wael er mwyn profi pwynt yn erbyn defnyddiwr arall sef Dysgwr ac yna, pan gafodd ei flocio rhag golygu tudalennau, aeth yn ei flaen i fandaleiddio prosiectau Wicifryngau eraill. Felly yn hynny o beth, dw i'n cytuno ag Adam - nid yw Wicipedia yn cael ei sensro, ond os yw defnyddiwr yn gwneud pethau fel y rhestrir uchod, yna fe fydd yn cael ei flocio. Pwyll 22:10, 19 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Dw i wedi dod o hyd i "log blocio" o dan "fy nghyfraniadau", felly dw i'n gallu cadarnhau mai Adam a flociodd fi. Ond fel dw i wedi dweud uchod, dw i am symud ymlaen - nid wyf am gael ffrae barhaol yn erbyn Adam, ac dw i'n osgoi golygu'r erthyglau am Gymreictod, oedd y rheswm dros y bloc. Mae'n ymddangos bod gwahaniaeth o farn rhwng fi a nifer o olygwyr eraill am beth sy'n addas i'r erthyglau hynny, ac mae osgoi'r pynciau hyn yn gyfan gwbl yn ymddangos i mi i fod yn well na cheisio parhau'r ddadl amdano, yn enwedig oherwydd bod rhywun wedi dweud bod y ddadl yn anadeiladol. Mae llawer o bynciau eraill dw i'n gallu ysgrifennu amdanynt, felly dw i'n gallu byw heb olygu'r rhain sy'n ddadleuol. Ond wna i "shut up" yma rwan, gan nad wyf yn meddwl bod siarad yn hir amdani ar dudalen amherthnasol yn helpu i symud pethau ymlaen. Dw i'n ymddiheuro, ddylwn i ddim wedi codi'r pwynt uchod. Dweud y gwir 22:43, 19 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Dolen wallus[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:23, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Dolen wallus 2[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:23, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Dolen wallus 3[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:24, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Dolen wallus 4[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:24, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]