Creol (Haiti)
Oddi ar Wicipedia
Argraffiad Creol (Haiti) Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Iaith gymysg yw Creol wedi ei sylfaenu ar Ffrangeg. Mae yna greoliaid wedi sylfaenu ar Saesneg, a Phortiwgaleg hefyd. Mae ambell i greol yn India'r Gorllewin ac hefyd yn ynys Réunion yng Nghefnfor India.
Ffrangeg yw iaith swyddogol Haiti, ond mae 90% o'r boblogaeth yn siarad Creol (rhyw 8 miliwn).
Ymadroddion Cyffredin
- Kreyol - Creol
- Gallois (GAL-wa) - Cymraeg
- Angle (ANG-le) - Saesneg
- Bonjou - Helo / bore da / prynhawn da
- Byenvini - Croeso
- Bon nuit - Nos da
- Silvouple / souple (sw-ple) - Os gwelwch yn dda
- Remèsye - Diolch
- De ryen - Da chi (atebwch remèsye gyda de ryen)
- Wi - Ie / do / oes ayyb.
- No - Nage / naddo / nag oes ayyb.
- Okenn - Na (= dim un)