Creigiau

Oddi ar Wicipedia
Creigiau
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.523°N 3.326°W Edit this on Wikidata
Map

Pentref noswylio yng ngogledd-orllewin Caerdydd, prifddinas Cymru, yw Creigiau. Ar hyn o bryd mae gan y pentref tua 1,500 o dai a phoblogaeth o oddeutu 5,000 o bobl.  Enw ward etholiadol Caerdydd yw Creigiau / Sain Ffagan . Mae gan y pentref gymuned gref sy'n siarad Cymraeg, ac ynghyd â Phentyrch mae ganddo un o'r clystyrau mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae 23.4% o'r pentref yn siarad Cymraeg. [1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Chwarel oedd hen ganolfan ddiwydiannol Creigiau. Agorwyd y chwarel yn yr 1870au a chafodd ei chau yn 2001. Rheilffordd y Barri oedd yn cysylltu'r pentref â Chaerdydd a'r Barri, a leolir ar ymyl ddwyreiniol y pentref, a chaewyd y rheilffordd fel rhan o doriadau Beeching . Mae'r Gymraeg bob amser wedi bod â phresenoldeb cryf yng Nghreigiau ac roedd y mwyafrif o'i thrigolion yn siarad Cymraeg yn 1890. [2]

Yng nghanol y 1970au, cafodd ystadau tai eu hadeiladu ar gyfer cymudwyr. Adeiladwyd ystâd fawr o dai arall yn ystod yr 1980au ar gyfer y nifer cynyddol o gymudwyr a oedd eisiau byw yn y pentref. Hyd heddiw, mae'r bobl leol yn galw'r ystâd hon yn "the new estate" neu "lower Creigiau".

Daeth Creigiau yn rhan o awdurdod Unedol Caerdydd yn 1996 yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol.

Castell-y-mynach[golygu | golygu cod]

Plasty sy'n dyddio o'r canoloesoedd hwyr yw Castell-y-mynach, a adeiladwyd, yn ôl pob sôn, yn y bymthegfed ganrif. Cafodd ei ailfodelu yn yr ail ganrif ar bymtheg cynnar. Mae'n cynnwys murluniau o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Mae datblygaid o dai modern bellach wedi eu hadeiladu o amgylch y plasty. [3]

Creigiau Pottery[golygu | golygu cod]

Yn 1947, sefydlwyd stiwdio grochenwaith Southcliffe Ceramic Company gan Reg a Jean Southcliffe. Cafodd y stiwdio ei hailenwi yn Creigiau Pottery yn 1948. Cynhyrchodd Creigiau lestri bwrdd gyda gwydredd llwyd golau a llestri copr, a oedd fwyaf adnabyddus ganddynt. [4] [5] Darn nodweddiadol gan Creigiau yw eu Welsh Dragon Pie kitsch, simdde ar gyfer pastai wedi ei wneud o grochenwaith gloywedd. Siâp draig Gymreig yw'r simdde yn hytrach na'r aderyn arferol.

Llywodraethiant[golygu | golygu cod]

Yn y gorffennol roedd Creigiau yn rhan o ward etholiadol Cyngor Bwrdeistref Taff Trelái. Yn 1995 daeth Creigiau yn rhan o Gaerdydd. Etholwyd y cynghorydd, Delme Bowen o Blaid Cymru, i ymuno â Chyngor Caerdydd (cynghorydd Plaid Cymru cyntaf Caerdydd ers 23 mlynedd). [6]

Ers 1999 mae Creigiau yn rhan o ward newydd, Creigiau a Sain Ffagan.

Cyfleusterau[golygu | golygu cod]

Mae cyfleusterau lleol yn cynnwys ysgol gynradd ddwyieithog, sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg, clwb golff, siop gyfleustra gyda swyddfa bost, maes hamdden a reolir gan drigolion y pentref (cartref saethyddiaeth leol, criced, pêl-droed, petanque a chlybiau tenis), meddygfa, a thafarn leol o'r enw 'The Creigiau Inn'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://statiaith.com/blog/cyfrifiad-2011/mapiau-am-y-gymraeg-o-gyfrifiad-2011/
  2. Jenkins, Geraint H. (1998). Language and Community in the Nineteenth Century. Cardiff: Univ. of Wales Press. ISBN 0-7083-1467-8.
  3. "Castell-y-mynach". British Listed Buildings. Cyrchwyd 18 February 2020.
  4. "Creigiau Pottery". The Pottery Studio.
  5. Jonathan Griffiths. "Creigiau Pottery, circa 1976 -1979" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 23 August 2017. Cyrchwyd 23 August 2017.
  6. "Cardiff - Plaid's return to the capital - Results". South Wales Echo. 5 May 1995. t. 6.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]