Craf y geifr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Blodyn Garlleg gwyllt

Planhigyn blodeuol yw Craf y geifr (Lladin: Allium vineale; Saesneg: Crow Garlic neu Wild onion; Ffrangeg: Ail des vignes) sy'n tyfu'n wyllt ar ochr ffyrdd. Mae ganddo sawl enw Cymraeg gan gynnwys: Garlleg gwyllt, Craf gwyllt, Craf y meysydd, Garlleg y brain, Garlleg Mair, Winwnsyn gwyllt, Winwnsyn y cŵn a Thriagl y tlawd.

Mae gan bob rhan ohono arogl garlleg cryf iawn. Maint y bwlb tanddaearol ydy rhwng 1 a 2 cm o ran diamedr. Mae'r prif goesyn rhwng 30 - 120 cm o daldra gyda 2 - 4 deilen hir rhwng 15 - 60 cm o ran hyd a'r rheiny yn drwchus gyda theimlad cŵyr cannwyll iddyn nhw. Pethau cymharol fychan ydy'r blodau: 2 - 5 mm yn unig o liw pinc, coch neu wyrdd ysgafn, ysgafn a chwe phetal i bob un. Mae nhw'n blodeuo rhwng Mehefin ag Awst.

Oherwydd natur 'olewog' y dail, nid yw chwynladdwyr yn effeithiol iawn ar y planhigyn a gall fynd yn rhemp mewn gardd.

Cynnwys

[golygu] Coginio

Gellir defnyddio'r gwreiddyn yn lle garlleg yn y gegin i roi blas ar fwyd. Mae cig oen neu gig eidionnau sydd wedi pori ar arlleg gwyllt yn blasu o arlleg. Trosglwyddir y blas mewn modd derbyniol ond mae'n cael ei gyfrif yn chwynyn pan fo'n tyfu mewn cae o weiriau megis gwenith neu ŷd. Mae'r dail yn fwytadwy yn yr haf a'r hydref.

[golygu] Rhinweddau meddygol

Dywedir y gall gynorthwyo'r claf sy'n dioddef o asma a chlefydau eraill sy'n ymwneud â'r ysgyfaint a bod yn y planhigyn elfennau sy'n clirio'r gwaed. Mae'n effeithiol i ladd llyngyr mewn plant hefyd. [1]

Gellir rhwbio'r sudd dros y corff i gadw gwybed a phryfaid eraill i ffwrdd.

Mae Craf y geifr wedi cael ei ddefnyddio ers canrifoedd fel llysieuyn gwrthfacteria (gwrthfiotig), ac mae ymchwil gwyddonol diweddar yn profi ei fod yn effeithiol iawn. [2]

[golygu] Cyfeiriadau

[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Dolennau allanol

Dahlia redoute.JPG Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill