Cork City F.C.

Oddi ar Wicipedia
Cork City
Enw llawnCork City Football Club
LlysenwauRebel Army, City
Sefydlwyd1984; 40 blynedd yn ôl (1984)
MaesStadiwm Turners Cross
(sy'n dal: 7,485)
PerchennogFORAS (perchnogaeth cefnogwyr)
CadeiryddDeclan Carey[1]
ManagerColin Healy
CynghrairLeague of Ireland First Division
202010th (disgyn o Premier i'r Adran 1af)
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis

Clwb pêl-droed o ddinas Corc yw Cork City F.C. (Gwyddeleg: Cumann Peile Chathair Chorcaigh) a sefydlwyd ym 1984.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae hanes pêl-droed proffesiynol yn yr ail ddinas fwyaf yng Ngweriniaeth Iwerddon yn gyfoethog o lwyddiannau cenedlaethol, ond hefyd yn ddryslyd iawn oherwydd nifer o newidiadau i enwau a chlybiau'n mynd i'r wâl.

Ar ôl tranc Cork Hibernians yn 1976, Cork Celtic yn 1979 a Cork United yn 1982, nid oedd ddinas Corc dîm pêl-droed proffesiynol. Sefydlwyd Cork City ym 1984 a'i dderbyn ar unwaith i brif gynghrair Iwerddon ar y pryd, Cynghrair Iwerddon.

Yn nhymor 1938/39, roedd clwb o'r un enw yn cystadlu yn yr adran uchaf yn erbyn olynydd uniongyrchol Cork FC neu Fordson United FC. Fodd bynnag, ailenwyd y clwb yn Cork United flwyddyn yn ddiweddarach.

Ni fu blynyddoedd cyntaf clwb pêl-droed newydd Cork City yn llwyddiannus iawn. Yn nhymor 1985/86 ni chafwyd un buddugoliaeth gartref, a llwyddwyd i osgoi y gwymp o drwch blewyn gan wahaniaeth goliau gwell na Shelbourne F.C. o un gôl yn unig. Dyma nhw'n ennill eu tlws cyntaf yn 1988, sef Cwpan Cynghrair Cynghrair Iwerddon, a'i hennill eto yn 1995, 1999. Rhwng 1991 a 1994 roedd Cork City yn un o dri thîm gorau Iwerddon, ac ym 1993 daeth y clwb yn bencampwyr am y tro cyntaf ac wedi hynny fe gyrhaeddodd brif rownd gyntaf Cwpan Ewrop. Yn y rownd gyntaf ragbrofol roeddent yn wynebu erbyn C.P.D. Tref Cwmbrân. Er iddynt golli'r cymal cyntaf 3-2, golygu buddigoliaeth gartref o 2-1 yn yr ail gymal eu bod yn mynd drwyddo oherwydd y rheol goliau oddi cartref, gan gyrraedd y rownd gyntaf go iawn. Yno, chwaraeodd y Corc yn erbyn y tîm Twrcaidd Galatasaray yn Istanbul. Collwyd y gêm yn Istanbul 2-1, a'r ail gymal 0-1.

Yn 1998 fe wnaethant ennill Cwpan Pêl-droed Iwerddon yn erbyn Shelbourne FC 1-0 a'r yr ail gynnig ar ôl i'r gêm derfynol gyntaf orffen yn gyfartal. Yn 2007 dyma ennill y gwpan eto gyda buddugoliaeth 1-0 dros Longford Town, ac eto yn 2016 a 2017.

Daeth Roy O'Donovan yn chwaraewr drwytaf i yn hanes y gynhrair pan symudodd yr ymosodwr ifanc i glwb adran un Lloegr Sunderland A.F.C. yn 2007 am 500,000 ewro.

Cork City – Crvena Zvezda, 2006

Ar ôl i Iwerddon addasu eu tymor i gyddynd â blwyddyn calendr yn 2003, daeth Cork City yn ail yn 2004 ac yna llwyddo i ennill y bencampwriaeth eto yn 2005 a 2017.

Ar 1 Tachwedd, 2008, llwyddodd y clwb i drechu rownd derfynol wefreiddiol Cwpan Chwaraeon Setanta yn erbyn Glentoran gyda 2-1 o goliau ar ôl i Cork City ddal i fod yn 0-1 ar hanner amser.

Cymru a Cork City[golygu | golygu cod]

Yn erbyn Dinas Corc y chwaraeodd C.P.D. Tref Cwmbrân wrth iddynt fod y tîm gyntaf o Cynghrair Genedlaethol Cymru newydd-sefydliedig i chwarae yn Ewrop yn 1992-93.

Enillodd Cwmbrân y cymal gyntaf yng Nghymru 3-2, ond Corc ennill yr ail yn Iwerddon, 1-2. Er gwaetha'r sgôr o 4-4 dros y ddau gymal, Corc aeth drwyddo i'r rownd nesaf oherwydd y rheol 'goliau oddi catref'.[2]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

1992/93, 2005, 2017

  • Enillwyr Cwpan Gweriniaeth Iwerddon (4)

1998, 2007, 2016, 2017

  • Supercup Iwerddon (3)

2016, 2017, 2018

  • Enillydd Cwpan Cynghrair Iwerddon (3)

1987/88, 1994/95, 1998/99

  • Cwpan Chwaraeon Setanta (1)

2008

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Club Directory". corkcityfc.ie. Cork City FC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-26. Cyrchwyd 15 February 2019.
  2. https://www.uefa.com/uefachampionsleague/match/50240--cwmbran-vs-cork/