Corhedydd y Graig
Oddi ar Wicipedia
| Corhedydd y Graig | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Motacillidae |
| Genws: | Anthus |
| Rhywogaeth: | A. petrosus |
| Enw deuenwol | |
| Anthus petrosus (Montagu, 1798) |
|
Mae Corhedydd y Graig (Anthus petrosus) yn aelod o deulu'r Motacillidae, sy'n cynnwys y siglennod yn ogystal a'r corhedyddion. Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar hyd traethau creigiog yn Ewrop o Lydaw hyd Rwsia. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n nythu yng ngweldydd Llychlyn a Rwsia yn symud tua'r de yn y gaeaf.
Fel y rhan fwyaf o'r corhedyddion mae'n aderyn brown ar y cefn a brown golau gyda marciau duon ar y fron a'r bol. Gall fod yn anodd ei wahaniaethu oddi wrth gorhedyddion eraill, megis Gorhedydd y Waun, ond mae coesau twyll yn nodwedd i sylwi arni. Pryfed yw'r prif fwyd.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas y traethau yng Nghymru.