Colla

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Colla

Ynys yn Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Colla (Saesneg: Coll). Saif yr ynys i'r gogledd-ddwyrain Tiriodh. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 164.

Y prif bentref yw Arinagour, lle mae fferi Caledonian MacBrayne yn cysylltu a Scarinish ar ynys Tiriodh ac Oban ar y tir mawr.

Ceir amrywiaeth o fywyd gwyllt yma, yn arbennig Rhegen yr Ŷd. Mae'r ffermwyr yn cael eu talu i ffermio mewn dulliau sy'n gadael i'r aderyn orffen nythu, ac o ganlyniad mae ei niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yno.

Arinagour