Colin Riordan

Oddi ar Wicipedia
Colin Riordan
Ganwyd1959 Edit this on Wikidata
Paderborn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethieithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Mae Colin Riordan yn academydd o wledydd Prydain. Ar 1 Medi 2012 cafodd ei benodi'n Llywydd ac yn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd.[1]

Addysgodd[golygu | golygu cod]

Derbyniodd yr Athro Riordan ei PhD o Brifysgol Manceinion ym 1986.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu'n Ddarlithydd, ac wedyn yn Uwch Ddarlithydd mewn Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe fo1986 i 1998.

Daeth yn Athro Almaeneg ym Mhrifysgol Newcastle ym 1998, cyn cael ei ddyrchafu'n Ddirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Adran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn Awst 2005.[2]

Yn Hydref 2007 daeth yn Is-Ganghellor Prifysgol Essex.[3] Ar 1 September 2012 daeth yn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Yn Tachwedd 2017, yn fuan wedi Diwrnod Dathlu Deurywioldeb, datganodd Riordan mewn ebost i staff Prifysgol Caerdydd ei fod yn ystyried ei hun yn berson deurywiol.[4] Nododd y BBC ei fod wedi dweud, "Ychydig o Is-Gangellorion yn unig sydd wedi siarad am fod yn hoyw neu'n lesbaidd, ac nid yw'r un wedi siarad am fod yn ddeurywiol, hyd y gwn i."[4] Mae ganddo ddwy ferch o'i briodas flaenorol.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-13. Cyrchwyd 2018-04-26.
  2. 2.0 2.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-12. Cyrchwyd 2018-04-26.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-12. Cyrchwyd 2018-04-26.
  4. 4.0 4.1 "Cardiff Uni boss: 'Why I told colleagues I'm bisexual'". BBC. Cyrchwyd 21 November 2017.
  5. "£288k-a-year university boss bravely comes out as bisexual in email to all staff to help those feeling 'invisible'". Mirror Online. Cyrchwyd 21 November 2017.