Colbhasa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ynys yn Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Colbhasa (Saesneg: Colonsay). Saif i'r gogledd i ynys Islay ac i'r de o Muile. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 108. Mae cob yn ei chysylltu ag ynys Oronsay.

Y prif bentref yw Sgalasaig, ar yr arfordir dwyreinol. Oddi yno, mae fferi yn hwylio i Oban, ac yn yr haf i Kennacraig gan alw yn Port Askaig ar Islay. Mae Croes Riasg Buidhe ar yr ynys yn dyddio o'r 8fed ganrif, a cheir amrywiaeth o fywyd gwyllt yma, sy'n ei gwneud yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid.