Claerwen
Oddi ar Wicipedia
Cronfa ddŵr ym Mhowys yw Claerwen, weithiau Llyn Claerwen neu Cronfa Claerwen. Saif yn ardal Elenydd. Y gronfa yma yw'r fwyaf o Gronfeydd Dyffryn Elan. Mae'n cyflenwi dŵr i ddinas Birmingham, Lloegr.
Cymerodd chwe blynedd i adeiladu'r argae concrid yma, gorffenwyd y gwaith yn 1952. Defnyddiwyd seiri meini o'r Eidal ar gyfer y gwaith. Mae'r argae yn 56 medr o ushder a 355 medr o led, ac arwynebedd y llyn yn 664 acer.
Dynodwyd Claerwen fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.