Chwarel yr Oakeley

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Colofnau hen bont ddŵr Pen-y-bont (Glan-y-don) a oedd yn cysylltu Chwarel yr Oakeley gyda Melin Pen-y-bont.

Chwarel lechi yw Chwarel yr Oakeley, ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd.

Hanes[golygu]

Dechreuodd Chwarel yr Oakeley yn 1818 pan brydlesodd Samuel Holland chwarel fychan ar fferm Rhiwbryfdir. Roedd y mentr hwn yn llwyddianus a gwerthwyd hi yn 1825 i'r Welsh Slate Company. Agorodd Holland chwarel newydd yn Gesail, uwchben Rhiwbryfdir. Yn 1839 daeth y chwarel hon yn un o'r cyntaf i ddefnyddio Rheilffordd Ffestiniog i yrru llechi i'r cei ym Mhorthmadog. Erbyn 1840, roedd gweithio tan-ddaear wedi dechrau ac agorwyd melin dorri a bwerwyd gan stêm tua 1860. Erbyn canol yr 1870au roedd dros 14,000 tunell o lechi gorffenedig yn cael eu cynhyrchu yn flynyddol.

Yn ystod yr un cyfnod, prydlesodd Nathaniel Mathew had dir rhwng Gesail a Rhiwbryfdir ac agorodd Gloddfa Ganol, roedd y chwarel hon yn arloesol yn nefnydd peiriannau trin llechi ac yn ddefnyddiwr cynnar o felinau a bwerwyd gan stêm ac inclein. Erbyn canol yr 1870au, roedd Gloddfa Ganol yn cynhyrchu mwy na 10,000 tunell o lechi gorffenedig yn cael eu cynhyrchu yn flynyddol.

Roedd trydydd chwarel o bwys gerllaw, sef Chwarel yr Arglwydd Palmerston, a leolwyd i'r de o Gloddfa Ganol. Roedd ei weithiau tan-ddaearol ymestynedig yn cysylltu i Reilffordd Ffestiniog erbyn 1838 ac agorodd ei felin cyntaf a bwerwyd gan stêm tua 1840. Erbyn yr 1870au roedd y cynhyrchiad blynyddol dros 50,000 tunell o lechi gorffenedig.

Terfynnodd y prydlesau ar gyfer Gesail a Gloddfa Ganol yn 1878 a cyfunodd y perchenog tir, W.E. Oakeley, y ddau chwarel yn un.

Parhaodd Chwarel yr Arglwydd Palmerston i fod yn annibynol ond bu hi'n dilyn dulliau ymosodol a pheryg o chwarelu. Achosodd nifer o gwympiadau tan-ddaearol ddisgyniadau cerrig sylweddol yn 1882 a 1883 a fygythiodd i ddi-sefydlogi dwy chwarel Oakeley uwchben. Erlynodd Oakeley perchenogion Chwarel yr Arglwydd Palmerston a cymerodd drosodd y berchenogaeth, gan gyfun'r tri chwarel yn un i greu beth adnabyddwyd fel Chwarel yr Oakeley.

Tuag at ddiwedd y 19eg ganrif, cymerodd Oakeley drosodd chwareli cyfagos Nidd-y-Gigfran a Chwarel Cwm Orthin. Yn eu uchafbwynt, roedd y chwareli cyfunedig yn cynhyrchu 60,000 tunell o lechi yn flynyddol, y trydydd mwyaf ym Mhrydain.

Gwnaethwyd defnydd estynedig o beiriannau stêm sefydlog i redeg y melinoedd torri, siediau trin ac incleiniau yn y chwarel, er cyflwynwyd pŵer trydan-hydro yn 1906.

Cariodd Oakeley ymlaen i cynhyrchu tunelli sylweddol o lechi drwy gydol yr Ail Ryfel Byd ond dioddefodd ddigyniad sylweddol yn yr 1960au ynghyd a gweddill diwydiant llechi Prydain. Caeodd y chwarel yn 1970.

Ail-agorodd y chwarel fel chwarel gweithio ac atyniad ymwelwyr yng nghanol yr 1970au odan yr enw Gloddfa Ganol. Gwerthwyd y menter yma ymlaen i McAlpines yn 1997 a caewyd ochr twristiaeth y busnes. Mae'r chwarel yn dal i weithio hyd heddiw (2007).[1]

Ffynonellau[golygu]

  1. The Slate Regions of North and Mid Wales Alun John Richards, Gwasg Carreg Gwalch ISBN 0863815529, 1999