Cerbyd trydan cell danwydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Honda 2008 FCX Clarity.

Mae cerbyd trydan cell danwydd (Saesneg: Fuel Cell Electric Vehicle neu FCV) yn fath o gerbyd hydrogen sy'n defnyddio cell danwydd i gynhyrchu trydan. Mae'r trydan a gynhyrchir yn y gell danwydd, trwy ocsideiddio hydrogen, yn pweru'r modur trydanol; daw'r ocsigen o'r aer. Gyrrir modur y cerbyd gan y gell danwydd hon; mewn cyferbyniad, mae gan y cerbyd hydrogen beiriant tanio mewnol lle llosgir hydrogen i ryddhau'r egni sy'n gyrru'r cerbyd.

Disgrifiad a phwrpas[golygu]

Mae tair rhan i'r gell danwydd: electrolyt, anod a chathod.[1] Yn fras, mae'r gell yn gweithio'n debyg iawn i'r batri, gan gynhyrchu trydan sydd yn ei dro'n gyrru'r motor. Yn hytrach na chael ei ailwefru, fodd bynnag, ailgyflewnir y gell gan hydrogen.[2] Ceir gwahanol fathau ohonyn nhw gan gynnwys polymer electrolyte membrane (PEM), direct methanol fuel cells, cell danwydd asid ffosfforig, celloedd danwydd carbonad, celloedd danwydd solid oxide, a Regenerative Fuel Cells.[3]

Yn 2009 yn yr U.D.A. roedd cerbydau petrol yn cynhyrchu dros 60% o garbon monocsid y wlad.[4] Mewn cyferbyniad, mae cerbyn trydan cell danwydd hydrogen pur yn allyrru ychydig iawn o lygryddion, gan gynhyrchu'n bennaf dŵr a gwres.[5][6]

Cerbydau lôn[golygu]

Yr Yamaha FC-me yn Shinkou, Naka-ward, Yokohama Kanagawa, Japan.

Mae'r rhan fwyaf o'r cerbydau sy'n cynnwys cell danwydd yn gerbydau codi a chario nwyddau ee y fforclifft.[7] Nid oes yr un car masnachol ar hyn o bryd (2014) sy'n cynnwys cell danwydd eithr lansiwyd dros 20 prototeip ers 2009.[8] Mae'n bosibl y gwelir y canlynol yn cael eu masnachu yn ystod y blynyddoedd nesaf: GM HydroGen4, Honda FCX Clarity, Toyota FCHV-adv a'r Mercedes-Benz F-Cell. Mae Llywodraeth Japan yn rhoi nawdd ariannol i Toyota, sydd ar fin lansio car cell danwydd (y 2015 Hyundai Tucson) a fydd yn costio 69,000.[9]

Awyrennau[golygu]

Diamond HK36 Super Dimona EC-003 gan Boeing yn 2008

Cynhaliodd ymchwilwyr Boeing nifer o deithiau awyr arbrofol yn Chwefror 2008 mewn awyrennau di-beilot wedi'i bweru gan gell danwydd yn unig a batris ysgafn. Defnyddiai gell danwydd Proton Exchange Membrane (PEM) a batri lithium-ion heibrid i yrru motor trydanol, wedi'i gyplysu i'r llafn wthio (neu "propelar").[10]

Yn 2003, diystyriwyd y batri a hedfanodd awyren wedi'i bweru'n unig gan gell danwydd, o fath FlatStackTM.[11] Yn 2009 hedfanodd awyren o eiddo'r Naval Research Laboratory (NRL’s) awyren Ion Tiger am 23 awr ac 17 munud.[12] Roedd Boeing yn 2001 ar fin lansio'r Phantom Eye sef awyren teithio'n uchel i gynnal ymchwil ac ysbio ar uchter o 65,000 o droedfeddi am hyd at bedwar diwrnod heb ail-lenwi.[13]

Cychod[golygu]

Christian Machens a'i gwch Yr Almaen yn 2000.

Y cwch trydan cell danwydd cyntaf i ymddangos oedd yr "Hydra" sy'n defnyddio'r system AFC, gyda gyrriant o 6.5 kW.

Mae'r gell danwydd yn llawer mwy effeithiol na'r dulliau confensiynol o yrru cerbydau ac yn allyrru llai o halogiad i'r atmosffêr.[14] O'r herwydd mae Gwlad yr Iâ wedi addunedu i addasu eu holl lynges pysgota i ddefnyddio cell danwydd erbyn 2015.

Mae'r llong danfor Math 212 yn cael ei defnyddio gan lyngesau'r Almaen a'r Eidal. "[15] Mae'r llongau'n cynnwys naw cell danwydd o fath PEM gan ddarparu rhwng 30 kW a 50 kW yr un o bwer trydanol.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Basics", Adran Ynni U.D.A.; adalwyd 2008-11-03.
  2. "What Is a Fuel Cell?", The Online Fuel Cell Information Resource; adalwyd 2008-11-03.
  3. "Types of Fuel Cells", Adran Ynni U.D.A; adalwyd 2008-11-03.
  4. "Fuel Cells for Transportation", UAdran Ynni U.D.A; adalwyd 18 Medi 2009.
  5. "Fuel Cell Vehicles", Fuel Economy; adalwyd 2008-11-03.
  6. Cox, Julian. "Time To Come Clean About Hydrogen Fuel Cell Vehicles", CleanTechnica.com, 4 Mehefin 2014
  7. "Hydrogen Fueling Stations Could Reach 5,200 by 2020". Environmental Leader: Environmental & Energy Management News,; adalwyd 2 Awst 2011
  8. "Hydrogen and Fuel Cell Vehicles Worldwide". TÜV SÜD Industrie Service GmbH,; adalwyd 2 Awst 2011
  9. www.slate.com; adalwyd 6 Mehefin 2014.
  10. "Boeing Successfully Flies Fuel Cell-Powered Airplane". http://www.boeing.com/news/releases/2008/q2/080403a_nr.html. . Boeing. Adalwyd 2 Awst 2011.
  11. "First Fuel Cell Microaircraft"
  12. "Fuel Cell Powered UAV Completes 23-hour Flight". Alternative Energy: News.; adalwyd 22 Hydref 2011.
  13. "Hydrogen-powered unmanned aircraft completes set of tests" www.theengineer.co.uk.; adalwyd 22 Awst 2011.
  14. "Fuel Cell Basics: Applications". Adalwyd 2 Awst 2011.
  15. "Super-stealth sub powered by fuel cell". Frederik Pleitgen. CNN Tech: Nuclear Weapons. Adalwyd 2 Awst 2011.
Science-template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.