Casino Royale (nofel)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Nofel gyntaf y gyfres James Bond gan Ian Fleming yw Casino Royale. Cyhoeddwyd ar 13 Ebrill 1953 gan Jonathan Cape.

Addaswyd ar gyfer y sgrîn teirgwaith: pennod o'r rhaglen deledu CBS Climax! ym 1954 gyda Barry Nelson fel Bond; ffilm barodi Casino Royale ym 1967 gyda David Niven fel Bond; ac un o ffilmiau swyddogol EON Productions Casino Royale yn 2006 gyda Daniel Craig fel James Bond.