M (James Bond)

Oddi ar Wicipedia

Cymeriad ffuglennol yng nghyfres Ian Flemming o ffilmiau James Bond ydy M; swydd y cymeriad yw Pennaeth y Gwasanaeth Gwybodaeth Gudd, a adwaenir hefyd fel MI6. Seiliodd Flemming y cymeriad ar nifer o bobl a oedd yn rheoli adrannau o'r gwasanaeth gyfrin Brydeinig. Ymddengys M yn nofelau Flemming ac yng ngweithiau saith o'i awduron dilynol, yn ogystal ag ymddangos mewn pedair ffilm ar hugain. Yng nghynhyrchiadau Eon Productions o'r ffilmiau, portreadwyd M gan bedwar actor: Bernard Lee, Robert Brown, Judi Dench a Ralph Fiennes, sy'n chwarae'r rhan ar hyn o bryd; yn y ddau gynhyrchiad annibynnol, chwaraewyd M gan John Huston ac Edward Fox.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.