Cambria (cylchgrawn daearyddol)
Oddi ar Wicipedia
Cyhoeddwyd Cambria: A Welsh Geographical Review rhwng 1973-1989 gan ddaearegwyr o fewn adrannau Daearyddiaeth Prifysgolion Abertawe ac Aberystwyth. Roedd yn gylchgrawn Saesneg blynyddol yn cynnwys erthyglau academaidd ac adolygiadau ar lyfrau yn ymwneud â phynciau daearyddol a materion cysylltiedig.
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.