Calendr Hebreaidd
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Calendr Hebreaidd (הלוח העברי ha'luach ha'ivri), neu Calendr Iddewig, yn galendr lunisolar a gaiff ei ddefnyddio heddiw, fel arfer mewn cysylltiad â chysyniadau crefyddol. Defnyddir y calendr hwn i bennu gwyliau Iddewig a pha bryd y darllenir y Torah yn gyhoeddus, dyddiadau yahrzeits ble cofir am farwolaeth perthynas. Yn Israel, mae'n galendr swyddogol a ddefnyddir i bwrpas dinesig a hyd yn oed fel canllaw amser ar gyfer amaethu. Y flwyddyn gyfredol (16 Medi 2012 hyd at 4 Medi 2013) yw 5773.[1]
Enwau'r Misoedd [golygu]
Daw enwau'r misoedd a geir yn y Calendr Hebreaidd Fabilon yn wreiddiol. Dechreuodd yr Iddewon eu defnyddio yn ystod eu halltudiaeth yn y 6ed ganrif cyn Crist.
- ניסן (Nisan)
- אייר (Iyar)
- שיון (Sifan)
- טמוז (Tamws)
- אב (Af)
- אלול (Elwl)
- תשרי (Tishrei)
- מרחשון (Marcheshfan)
- כסלו (Cislef)
- טבת (Tefet)
- שבט (Shfat)
- אדר (Adar)
Cyfeiriadau [golygu]