Caban F'ewyrth Twm
Mae Caban F'ewyrth Twm (Teitl gwreiddiol Saesneg: Uncle Tom's Cabin; neu, Life Among the Lowly) yn nofel gan yr awdures Americanaidd Harriet Beecher Stowe a gyhoeddwyd yn 1852. Roedd y nofel wedi ei bwriadu fel ymosodiad ar gaethwasiaeth, a bu'n llwyddiant enfawr. Ystyrir iddi fod yn allweddol wrth greu'r agweddau a arweiniodd at Ryfel Cartref America. Dywedir i Abraham Lincoln, pan gyflwynwyd Harriet Beecher Stowe iddo yn ystod y rhyfel, wneud y sylw "Felly dyma'r ddynes fach a ddechreuodd y rhyfel mawr yma".
Ymhlith y dylanwadau ar y nofel, roedd hunangofiant Josiah Henson, cyn-gaethwas oedd wedi llwyddo i ddianc i Ganada yn 1830. Bu Stowe hefyd yn siarad â chryn nifer o gaethweision a chyn-gaethweision wrth gasglu deunydd ar gyfer y llyfr.
Gwerthwyd mwy o gopiau o Uncle Tom's Cabin nag o unrhyw lyfr arall yn ystod y 19eg ganrif ac eithrio'r Beibl. Gwerthwyd 300,000 o gopiau yn yr Unol Daleithiau yn y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1854 roedd y llyfr wedi ei drosi i 60 o ieithoedd gwahanol.
Addasiad Cymraeg [golygu]
Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf, gan Hugh Williams dan y teitl Caban F'ewyrth Twm, yn 1853. Ond cyn hynny roedd addasiad gan William Rees (Gwilym Hiraethog) wedi ymddangos fel penodau wythnosol yn Y Faner, papur newydd Rhyddfrydol Thomas Gee: fe'i cyhoeddwyd fel Aelwyd F'Ewythr Robert ym Medi 1853. Mae Gwilym Hiraethog yn rhoi gwisg Gymreig i'w addasiad trwy ei osod mewn fframwaith o deulu yng ngogledd Cymru yn darllen Caban F'Ewythr Twm (sef cyfieithiad Hiraethog o'r nofel) gyda'r nos ac yn trafod ei arwyddocád yng nghyd-destun Radicaliaeth Gymreig y cyfnod. Cafodd fersiynau Rees a Williams eu hailargraffu nifer o weithiau yn ail hanner y 19eg ganrif. Cyhoeddwyd talfyriad Cymraeg tua'r un adeg gan Thomas Levi.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Raymond B. Davies "Caban f'ewyrth Twm" Y Casglwr 68 (2000), tt. 6-7.
- E. Wyn James, ‘Caethwasanaeth a’r Beirdd, 1790-1840’, Taliesin, 119 (2003), tt.37-60. ISSN 0049-2884.