Harriet Beecher Stowe

Oddi ar Wicipedia
Harriet Beecher Stowe
GanwydElizabeth Harriet Beecher Edit this on Wikidata
14 Mehefin 1811 Edit this on Wikidata
Litchfield, Connecticut Edit this on Wikidata
Bu farw1 Gorffennaf 1896 Edit this on Wikidata
Hartford, Connecticut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Hartford Female Seminary Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, bardd, awdur plant, awdur storiau byrion, ysgrifennwr, diddymwr caethwasiaeth Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCaban F'ewyrth Twm, A Key to Uncle Tom's Cabin, Dred: A Tale of the Great Dismal Swamp, Still, Still with Thee Edit this on Wikidata
Arddullnofel, tale Edit this on Wikidata
TadLyman Beecher Edit this on Wikidata
MamRoxana Foote Beecher Edit this on Wikidata
PriodCalvin Ellis Stowe Edit this on Wikidata
PlantCharles Edward Stowe Edit this on Wikidata
LlinachBeecher family Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Connecticut, Oriel yr Anfarwolion Ohio, Cyfres Americanwyr nodedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://harrietbeecherstowecenter.org Edit this on Wikidata
llofnod
Harriet Beecher Stowe

Nofelydd Americanaidd ac ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth oedd Harriet Elizabeth Beecher Stowe (14 Mehefin 18111 Gorffennaf 1896). Mae'n fwyaf enwog fel awdur y nofel Uncle Tom's Cabin (1852).

Ganed hi yn Litchfield Connecticut, yn ferch i Lyman Beecher a Roxana Foote Beecher. Dywedir fod y teulu o dras Cymreig. Roedd ei thad yn bregethwr, a daeth ei brawd, Henry Ward Beecher, i amlygrwydd fel pregethwr yn ddiweddarch. Yn 1836 priododd Calvin Ellis Stowe, yntau'n weinidog, a symudasant i Brunswick, Maine. Cawsant saith o blant, ond bu farw pedwar ohonynt o flaen Harriet.

Dechreuodd ysgrifennu o ddifrif yn 1851, yn rhannol oherwydd ei hawydd i wneud rhywbeth i wrthwynebu caethwasiaeth, gyda chefnogaeth William Lloyd Garrison, golygydd The Liberator. Ymddangosodd ei gwaith yn y papur The National Era dan y teitl Uncle Tom's Cabin or Life Among the Lowly. Yn 1852 cyhoeddwyd y gwaith fel llyfr, a bu'n llwyddiant enfawr. Gwerthwyd 300,000 o gopiau yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1854 roedd y llyfr wedi ei drosi i 60 o ieithoedd gwahanol.

Gweithiau (anghyflawn)[golygu | golygu cod]